Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Rydym yn gorff ymbarél sefydledig a chofrestredig gyda Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) a gallwn brosesu eich archwiliadau DBS yn electronig, beth bynnag fo maint eich sefydliad.
Gall ein tîm ymroddedig a phrofiadol brosesu a monitro ceisiadau DBS gan gynnig cefnogaeth a chyngor arbenigol, i'ch helpu i wneud penderfyniadau recriwtio mwy diogel. Mae ein gwasanaeth yn cynnwys:
- Archwiliadau DBS Safonol: 90% wedi'u dychwelyd o fewn 48 awr
- Archwiliadau DBS Uwch: 90% wedi'u dychwelyd o fewn 5-7 diwrnod gwaith
- Archwiliadau sylfaenol
- Archwiliadau Adnabod (ID) allanol
- System ar-lein diogel y gellir ei harchwilio gan ostwng gwallau, costau ac oedi
- Canlyniadau, hysbysiadau a nodiadau atgoffa wedi'u hawtomeiddio
Ceisiadau ac olrhain trywydd DBS
Ebost: hwbs@powys.gov.uk Ffon: 01597 826024 (Sylwch fod y manylion cysylltu hyn ar gyfer ymholiadau Masnachol yn unig. Os oes gennych ymholiad ac am gysylltu â Thîm Cyflogres Powys, ffoniwch 01597 826485) Cysylltwch â
Rhowch sylwadau am dudalen yma