Cyngor yn ceisio aelod i wasanaethu ar y Pwyllgor Safonau

7 Mawrth 2022

Mae gan y cyngor sir Bwyllgor Safonau gyda naw aelod - pedwar cynghorydd sir a phump aelod annibynnol neu 'leyg' - ac mae'n chwilio am aelod annibynnol i ymuno â'r pwyllgor.
Mae gan y pwyllgor bwerau i gynnal gwrandawiadau i achosion o gamymddwyn a gorfodi cosb. Mae ganddo hefyd is-bwyllgor o aelodau annibynnol sy'n ymdrin â safonau sy'n gysylltiedig â chynghorau tref a chymuned y sir.
Mae'r Pwyllgor Safonau yn rhan bwysig o'r broses ddemocrataidd leol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn ffi lwfans dyddiol o £105 am hanner dydd neu £210 am ddiwrnod llawn yn ogystal â chostau teithio.
Nid oes angen unrhyw gymwysterau addysgiadol neu broffesiynol swyddogol, ond dylai fod gan ymgeiswyr ddiddordeb mewn cynnal a hyrwyddo safonau uchel, dealltwriaeth am faterion lleol, meddu ar farn gadarn a sgiliau cyfathrebu da.
Bydd y pwyllgor yn cyfarfod dair neu bedair gwaith y flwyddyn fel rheol, ond gall gyfarfod yn amlach os oes angen.
Dylai unrhyw un sydd â diddordeb yn y rôl ddarganfod rhagor o fanylion yma neu dylai gysylltu â Chlerc y Pwyllgor Safonau ar 01597 826206 neu anfon e-bost at: carol.johnson@powys.gov.uk
7 Ebrill 2022 yw'r dyddiad cau ar gyfer ymgeisio.