Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Powys yn cynnal nifer o ddigwyddiadau yn ein llyfrgelloedd fel rhan o raglen Gaeaf Llawn Lles.
Mae rhaglen Gaeaf Llawn Lles yn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc ymuno â phob math o weithgareddau am ddim yn ein llyfrgelloedd:
9 Mawrth 2022 17:00 Adrodd Straeon gyda Daniel Morden, Llyfrgell Machynlleth
Mae Daniel Morden yn awdur arobryn ac yn storïwr mentrus. Bydd y digwyddiad yn yr awyr agored felly gwisgwch ddillad sy'n addas ar gyfer y tywydd. Addas i unrhywun dros 7 oed.
10 Mawrth 15:45 Chwedlau Sir Drefaldwyn gyda Mair Tomos Ifans, Llyfrgell Llanfyllin
Ymunwch â'r storïwraig i fwynhau chwedlau am Sir Drefaldwyn.
Bydd y sesiwn yn ddwyieithog ond yn Gymraeg yn bennaf. Addas ar gyfer plant oed ysgol gynradd. Am ddim ond rhaid archebu lleoedd. Cysylltwch â'r llyfrgell i gadw lle: 01691 648794 llanfyllin.library@powys.gov.uk
11 a 18 Mawrth Gweithdy Zine, Llyfrgell Machynlleth
Bydd y gweithdai 'zine' yn archwilio mynegiant creadigol drwy eiriau a lluniau,gan ddefnyddio arlunio, collage ac ysgrifennu creadigol. Bydd cyfranogwyr yn creu 'zines' ar bynciau sy'n bwysig iddyn nhw ac yn rhoi cynnig ar dechnegau newydd ar gyfer adrodd straeon a darlunio. Byddwn hefyd yn gweithio ar 'zine' cydweithredol i ychwanegu at ein casgliad 'zine'. Addas ar gyfer plant oed 7 - 11.
15 Mawrth 15:45 Chwedlau a Hanesion Cymreig gyda Suzanne Tumnus, Llyfrgell Llanfyllin
Ymunwch â'r storïwr Suzanne Tumnus i fwynhau rhai o chwedlau a hanesion Cymreig. Bydd y sesiwn yn Saesneg. Addas ar gyfer plant oed ysgol gynradd. Am ddim ond rhaid archebu lleoedd. Cysylltwch â'r llyfrgell i gadw lle: 01691 648794 llanfyllin.library@powys.gov.uk
17 Mawrth 15:45 Chwedlau Sir Drefaldwyn gyda Mair Tomos Ifans, Llyfrgell Llanfyllin
Ymunwch â'r storïwraig i fwynhau chwedlau am Sir Drefaldwyn.
Bydd y sesiwn yn ddwyieithog ond yn Gymreag yn bennaf. Addas ar gyfer plant oed ysgol gynradd. Am ddim ond rhaid archebu lleoedd. Cysylltwch â'r llyfrgell i gadw lle: 01691 648794 llanfyllin.library@powys.gov.uk
19 Mawrth 12:00-16:00 Sesiwn golff!, Llyfrgell Ystradgynlais
22 Mawrth 15:45 Chwedlau a Hanesion Cymreig gyda Suzanne Tumnus, Llyfrgell Llanfyllin
Ymunwch â'r storïwr Suzane Tumnus I fwynhau rhai o chwedlau a hanesion Cymreig. Bydd y sesiwn yn Saesneg. Addas ar gyfer plant oed ysgol gynradd. Am ddim ond rhaid archebu lleoedd. Cysylltwch â'r llyfrgell i gadw lle: 01691 648794 llanfyllin.library@powys.gov.uk
Caiff y digwyddiadau hyn eu hariannu gan Lywodraeth Cymru a llyfrgelloedd cyhoeddus ledled Cymru sy'n gweithio â'r Asiantaeth Ddarllen i hyrwyddo'r gwahaniaeth, a brofwyd, y gall darllen ei wneud i fywyd a llesiant pobl ifanc.
Dewch draw i'ch llyfrgell leol am ddigwyddiadau a gweithgareddau, a llond lle o bethau da i'w darllen!