Y cyngor yn gorffen ei asesiad ar lety i Sipsiwn a Theithwyr

8 Mawrth 2022

Cynhaliwyd yr asesiad o anghenion llety sipsiwn a theithwyr gan Wasanaeth Tai y Cyngor. Mae Llywodraeth Cymru'n gofyn i bob awdurdod lleol lunio asesiad bob pum mlynedd.
Nod yr asesiad yw rhoi'r wybodaeth angenrheidiol i'r cyngor gynllunio'n strategol i ddiwallu anghenion sipsiwn a theithwyr nawr ac i'r dyfodol. Mae hefyd yn cyfrannu at y dystiolaeth ar gyfer llunio'r cynllun datblygu lleol sef y prif ddogfen gynllunio sydd rhaid ei chynhyrchu gan y cyngor a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog fel awdurdodau cynllunio.
Yn ôl yr asesiad, mae yna angen amlwg i greu 15 plot ychwanegol i sipsiwn a theithwyr yn y sir dros y bum mlynedd nesaf.
O'r 15 plot sydd eu hangen dros y bum mlynedd nesaf, mae 13 o fewn ardal y cyngor a'r ddau arall yn ardal y parc cenedlaethol.
Hefyd, bydd angen naw plot arall dros gyfnod y Cynllun Datblygu Lleol sy'n rhedeg tan 2033, 6 yn ardal y cyngor a 3 yn ardal y parc cenedlaethol.
Mae dyletswydd gyfreithiol ar y cyngor i sicrhau ei fod yn diwallu'r angen am y llefydd hyn trwy ddarparu ar gyfer datblygu safleoedd o fewn polisiau cynllunio lleol. Nid yw o angenrhaid yn golygu fod rhaid defnyddio safleoedd sy'n berchen ac yn cael eu rheoli gan y cyngor. Efallai bydd sipsiwn a theithwyr am nodi a phrynu eu safleoedd eu hunain i'w datblygu a'u rheoli.
Dywedodd y Cynghorydd Myfanwy Alexander, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol i Oedolion, y Gymraeg, Tai a Newid Hinsawdd: "Bydd canlyniad y gwaith hwn yn golygu y bydd y Cyngor yn gallu gwneud penderfyniadau strategol ar beth fydd ei angen i'r dyfodol."