Adolygiad o'r Rhaglen Drawsnewid

10 Mawrth 2022

Cyhoeddwyd adroddiad i adolygu Rhaglen Drawsnewid Gweledigaeth 2025 - grŵp cydgysylltiedig o brosiectau i sbarduno trawsnewid yn y cyngor i helpu i gyflawni'r dyheadau yn Gweledigaeth 2025.
Mae'r adroddiad yn nodi'r hyn a gyflawnwyd, y cynnydd a wnaed hyd yma, a'r gwersi a ddysgwyd ar draws y rhaglen ac mae wedi'i groesawu gan Arweinydd y Cyngor a Chadeirydd y Bwrdd Trawsnewid, y Cynghorydd Rosemarie Harris.
Dywedodd y Cynghorydd Harris: "Lansiwyd Gweledigaeth 2025 gyda'r nod o wneud Powys yn lle gwych i fyw, i ddysgu, i weithio ac i chwarae ynddo. Wrth i ni agosáu at ddiwedd tymor y cyngor hwn, mae'r adroddiad hwn yn rhoi cyfle inni edrych yn ôl ar y y cynnydd a wnaed hyd yn hyn a pha wersi y gellir eu dysgu i gefnogi gwaith yn y dyfodol.
"Rwyf wrth fy modd gyda'r hyn sydd wedi'i gyflawni a hoffwn ddiolch i'r holl swyddogion a fu wrthi. Er gwaethaf heriau'r pandemig, mae llawer i'w ddathlu o ran cynnydd cadarnhaol a pharhaus o fewn y prosiectau."
Mae'r cyflawniadau allweddol ar gyfer Rhaglen Drawsnewid Gweledigaeth 2025, a amlygir yn yr adroddiad, yn cynnwys:
Bargen Twf Canolbarth Cymru - sicrhau bargen gyda phartneriaeth arloesol sy'n dod â buddsoddiad cyfunol o £110m gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Disgwylir i hyn ddenu buddsoddiad ychwanegol o ffynonellau cyhoeddus a phreifat eraill.
Strategaeth newydd a gafodd ei datblygu a'i rhoi ar waith ar gyfer Trawsnewid Addysg yn y sir. Ers ei chymeradwyo, mae'r cyngor wedi sefydlu ysgolion pob oed, wedi cyflwyno strwythur newydd i oruchwylio darpariaeth ysgolion ôl-16, wedi cymeradwyo Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg ac wedi sefydlu darpariaeth lloeren yng nghanol y sir fel bod dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol mor agos i'w cartrefi â phosibl.
118 o dai fforddiadwy newydd yn y sir (mae 79 o'r rhain yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd). 109 o dai ychwanegol yn aros am ganiatâd priodol.
Mae gwaith adeiladu ar y gweill ar gyfer dau safle Gofal Ychwanegol newydd i ddarparu tai ychwanegol i bobl hŷn. Cynnig yn cael ei baratoi hefyd ar gyfer cynllunio trydydd safle, a lleoliadau eraill hefyd yn cael eu nodi.
Achos Amlinellol Strategol a baratowyd ar gyfer Prosiect Lles Gogledd Powys yn barod i'w gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.
Cafodd dros 100 o brosesau eu hailddylunio a'u lansio ar y wefan, gan alluogi rhyngweithio haws rhwng cwsmeriaid a hygyrchedd 24/7.
Gwelliannau i brosesau cynllunio busnes a chyllidebu.
Bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno yn y Cabinet ddydd Gwener (Mawrth 11) a Bwrdd Rhaglen Trawsnewid Gweledigaeth 2025 ar 25 Mawrth.