Enwebiadau ar agor ar gyfer etholiadau Cyngor Sir Powys

18 Mawrth 2022

Bydd trigolion y sir yn mynd i fwrw eu pleidlais ddydd Iau 5 Mai i bleidleisio dros y bobl yr hoffent eu cynrychioli ar y cyngor sir a'u cynghorau tref a chymuned.
Mae hysbysiad ar gyfer etholiadau'r cyngor sir a chynghorau tref a chymuned wedi'i chyhoeddi ac mae gan unrhyw un sy'n ystyried sefyll fel ymgeisydd tan 4pm ddydd Mawrth 5 Ebrill i gyflwyno eu papur enwebu i'r Swyddog Canlyniadau.
Cynhelir etholiadau llywodraeth leol bob pum mlynedd ac maen nhw'n rhoi cyfle i bobl ddylanwadu ar bwy sy'n rheoli'r cyngor a chyfeiriad polisïau a gwariant y cyngor.
Yn dilyn arolwg gan Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru mae 60 o wardiau etholiadol ym Mhowys. Bydd nifer y cynghorwyr a gaiff eu hethol i Gyngor Sir Powys wedi gostwng o 73 i 68.
Bydd cyfanswm o 1,040 o gynghorwyr cymuned yn cael eu hethol ar gyfer 110 o gynghorau tref a chymuned ym Mhowys.
Dywedodd Dr Caroline Turner, Swyddog Canlyniadau Powys: "Mae trigolion yn penderfynu dod yn gynghorwyr am amryw o resymau, efallai oherwydd eu bod yn weithgar yn eu cymuned neu wedi ymrwymo i fater neu blaid wleidyddol benodol, ond beth bynnag yw'r rheswm yn aml maen nhw'n cael eu synnu gan faint ac amrywiaeth y gwaith diddorol.
"Gall bron unrhyw un fod yn gynghorydd lleol ac mae'n bwysig ein bod yn cael amrywiaeth o wahanol bobl o wahanol gefndiroedd i gynrychioli cymunedau lleol. Mae'n rôl heriol ond yn un sy'n gallu bod yn werth chweil."
Os oes gennych ddiddordeb mewn cael pecyn enwebu neu os hoffech wybod mwy am y broses etholiadol, anfonwch e-bost i electoral.services@powys.gov.uk neu ewch i Etholiadau a phleidleisio. Fel arall, ffoniwch y Gwasanaeth Etholiadol ar 01597 826202.