Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhyddhad Ardrethi ar gyfer Busnesau Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch

Image of money

23 Mawrth 2022

Image of money
Mae trethdalwyr busnes ym Mhowys yn cael eu hannog i wneud cais am y Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2022-23 sy'n cael ei weinyddu gan Gyngor Sir Powys.

Mae cynllun Llywodraeth Cymru yn cynnig disgownt o 50% i fusnesau cymwys ar fil trethi busnes eiddo.  Bydd y cynllun yn berthnasol i drethdalwyr cymwys sydd â gwerth ardrethol o hyd at £110,000.

Rhaid i'r busnesau hyn fod yn y sectorau manwerthu, hamdden, lletygarwch neu dwristiaeth er enghraifft siopau, tafarndai a bwytai, campfeydd, mannau perfformio a gwestai.

Rhaid i fusnesau sy'n bodloni'r meini prawf wneud cais am y gostyngiad trethi hwn.  Ni fydd yn cael ei gyflwyno'n awtomatig sy'n newid o'r blynyddoedd diwethaf.

Dywedodd Jane Thomas, Pennaeth Cyllid y cyngor:  "Bydd y cymorth hwn yn cael ei groesawu gan fusnesau sydd wedi dioddef neu sy'n parhau i ddioddef effeithiau'r pandemig.   Hoffwn annog busnesau sy'n gymwys i gael rhyddhad ardrethi i wneud cais cyn gynted â phosibl fel bod y gostyngiad yn cael ei gymhwyso i'w bil ardrethi busnes."

Gellir gweld rhagor o wybodaeth am y cynllun, gan gynnwys sut i wneud cais ar-lein yn Trethi Busnes: Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2022/2023