gwelededd ddewislen symudol Toggle

Diogelu Oedolion a Gweithdrefnau Cymru Gyfan

Darparwr Cwrs: Llwybrau Newydd

Hyfforddwr: Liam O'Sullivan

Nodau

I'ch galluogi chi i ymateb yn briodol i bryderon am ddiogelwch a lles oedolyn mewn perygl.

I sicrhau eich bod chi'n ymwybodol o brotocol a chanllawiau rhanbarthol.

Braslun:

  • Adolygiad o Weithdrefnau Diogelu Cymru
  • Dull o ddiogelu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • trafod pryderon a gweithredoedd
  • Trothwy:  Atal neu ddiogelu?
  • Caniatâd a rhannu gwybodaeth
  • Dyletswydd i adrodd
  • Atal niwed a diffyg cydymffurfio (gan gynnwys cydymffurfiaeth gudd)
  • O bryderon i'r casgliad - bydd modd lleihau'r rhan hon yn sylweddol mewn amser i adolygiad syml
  • Bydd modd trafod nifer o senarios ymarferol trwy gydol y sesiwn i ddangos y pwyntiau dysgu.

Dyddiadau: Amser: 9.30am - 4.30pm

  • Ebrill 25 2022
  • Mai 23 2022
  • Mehefin 27  2022
  • Gorffennaf 25  2022
  • Medi 26  2022
  • Hydref 24 2022
  • Tachwedd 21 2022
  • Chwefror 13 2023
  • Mawrth 27 2023

Bydd disgwyl i bawb fod yn bresennol dros gyfrifiadur/gliniadur, llechen fawr, neu mewn grwpiau mewn ystafell gynhadledd gyda digon o gyfarpar cynadledda (meic/camera/sgrîn fawr).

Bydd angen meic a chamera a dylid troi'r ddau ymlaen.

Bydd angen cyswllt da â wifi/rhyngrwyd  (lled band/cyflymder) fel bod modd defnyddio camera a meicroffôn a chysylltiad sefydlog.

Mae'n bosibl y bydd deunydd yn cael eu cynnwys gyda'r cyfarwyddiadau ymuno, i'w defnyddio yn ystod y cwrs.  Eich cyfrifoldeb chi fydd sicrhau y gallwch ddefnyddio'r rhain yn ystod y cwrs.

Er y gwnawn bopeth o fewn ein gallu i sicrhau lles pawb ar y cwrs, mae'r pwnc yn gallu peri gofid i rai - bydd disgwyl i reolwyr llinell gysylltu'n hwyrach â'r rhai oedd ar y cwrs rhag ofn y bydd angen cefnogaeth. 

Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd.

Mynegi diddordeb yn y cwrs hwn Expression of Interest Form for Training Courses

Cyswllt

Eich sylwadau am ein tudalennau