Toglo gwelededd dewislen symudol

Ymwybyddiaeth Gofalwyr - Adnabod a chefnogi Gofalwyr Ifanc ac Oedolion sy'n Gofalu yn eich gweithle ac o fewn eich gwasanaeth

Yr hyfforddwyr yw Eve Lambrick o Credu

Diben

Bydd y cwrs hwn yn eich helpu chi i chwarae eich rhan wrth helpu Gofalwyr Ifanc ac Oedolion sy'n Gofalu i gael yr un cyfleoedd mewn bywyd ag eraill.

  • Dengys tystiolaeth fod gofalwyr yn darparu 96% o ofal yng Nghymru ac yn arbed dros £8biliwn i wasanaethau Cymru. Er gwaethaf y rôl bwysig hon, gall Gofalwyr brofi deilliannau iechyd, addysgol ac ariannol tlotach na'r boblogaeth nad ydynt yn ofalwyr ond gall dynodi gofalwyr yn gynnar a'u cefnogi newid hyn.
  • Trwy feddwl am ofalwyr, a meddwl am deuluoedd, gallwch helpu gofalwyr i ofalu a chael y mwyaf allan o fywyd.

Egwyddorion

Dynodi, cyfeirio a chefnogi mewn ffordd sy'n

  • Canolbwyntio ar yr unigolyn
  • Canolbwyntio ar gryfderau unigolyn ynghyd â'r heriau
  • Canolbwyntio ar ddeilliannau / atebion sy'n bwysig i'r unigolyn

Amcanion/deilliannau dysgu

  • Cael trosolwg o bwy sy'n ofalwyr ifanc ac yn oedolion sy'n gofalu
  • Cael trosolwg o'r gyfraith mewn perthynas ag oedolion ifanc ac oedolion sy'n gofalu
  • Archwilio sut i ddynodi Gofalwyr ifanc ac Oedolion sy'n gofalu o fewn eich rôl
  • Datblygu ffyrdd o adnabod gwerth a chefnogi Gofalwyr Ifanc ac Oedolion sy'n gofalu o fewn eich rôl
  • Canfod ffynonellau pellach o wybodaeth a chefnogaeth

Fe fydd rhaid i chi gofrestru ar gyfer yr hyfforddiant. Wedi cofrestru, fe fyddwch yn derbyn e-bost cadarnhau sy'n cynnwys gwybodaeth am ymuno â'r Hyfforddiant.

Llwyfan Zoom ar-lein gydag ystafelloedd ar wahân ar gyfer trafodaethau a dysgu

Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd.

Mynegi diddordeb yn y cwrs hwn Expression of Interest Form for Training Courses

Cyswllt

Eich sylwadau am ein tudalennau