Pecynnau prawf COVID-19 ar gael o hyd

8 Ebrill 2022

Fel rhan o gynllun peilot gan Lywodraeth Cymru, mae pecynnau LFT ar gael o hyd i'w casglu o lyfrgelloedd Powys ar gyfer trigolion sy'n bodloni'r meini prawf canlynol,
- mae meddyg neu arbenigwr wedi dweud eich bod yn gymwys i gael triniaethau COVID-19 newydd https://llyw.cymru/triniaethau-covid-19
- rydych yn mynd i ymweld â rhywun sy'n gymwys i gael triniaethau COVID-19 newydd
- eich meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol yn gofyn i chi gymryd prawf
- mae gennych COVID-19 ac eisiau gwirio a yw canlyniad eich prawf yn dal yn gadarnhaol ar ôl diwrnod 5 - dylai teulu/ffrindiau gasglu pecyn ar eich rhan.
Ni ddylai preswylwyr sy'n dioddef o unrhyw un o symptomau COVID-19 ymweld â llyfrgell i gasglu pecynnau. Yn lle hynny, gallant gael gafael ar becynnau naill ai ar-lein https://www.gov.uk/order-coronavirus-rapid-lateral-flow-tests neu drwy ffonio 119