Sesiwn sefydlu Gofal Cymdeithasol
Darparwyr: Acute Training Solutions
Cynulleidfa darged: Timoedd Gwaith Cymdeithasol / Darparwyr / Gofalwyr
Nod:
Sesiwn sefydlu i staff newydd.
Deilliannau:
- Cod Ymarfer Proffesiynol
- Egwyddorion gofal
- Hawliau
- Parch, urddas a chyfrinachedd
- Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
- Cymryd risgiau positif
- Perthynas bositif a ffiniau
- Cyfathrebu
- Cydsyniad
- Y Gymraeg a diwylliant.
Fe welwch adnoddau, deddfwriaethau a chanllawiau ar y ddolen hon i'r wefan
Fframwaith sefydlu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol | Gofal Cymdeithasol Cymru
CYFARWYDDIADAU I'R WEMINAR AR GYFER STAFF UNIGOL
- Llwythwch ap Zoom i'r dyfais o'ch dewis cyn y sesiwn hyfforddi.
- Byddwch yn ymwybodol o'ch amgylchedd dysgu / sŵn cefndir ac os ydych chi'n defnyddio dyfais clyfar (ffôn / llechen), bydd defnyddio clustffonau gyda meicroffôn yn gwella eich profiad dysgu.
- Peidiwch â rhannu'r ddolen i ymuno â'r weminar, mae'n unigryw i chi. Bydd rhannu'r ddolen neu sgrîn yn gallu effeithio ar eich gallu i gofrestru a'ch tystysgrif bresenoldeb.
- Rydym yn eich cynghori i gysylltu â Wifi er mwyn osgoi costau trawsrwydweithio / defnyddio data.
- Bydd angen i chi fynychu o leiaf 90% o'r hyfforddiant i dderbyn tystysgrif.
Dyddiadau:
10 Mai, 10am - 4.30pm
8 Mehefin, 10am - 4.30pm
13 Gorffennaf, 10am - 4.30pm
14 Medi, 10am - 4.30pm
12 Hydref, 10am - 4.30pm
Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd.
Mynegi diddordeb yn y cwrs hwn Expression of Interest Form for Training Courses