Cafodd arian pellach ei gadarnhau gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar drwy 'Haf o Hwyl' i ddarparu amrywiaeth o weithgareddau chwarae a diwylliannol i blant a phobl ifanc rhwng 0-25 oed.
Fel ein bod ni'n gallu cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau ledled Powys dros gyfnod yr haf, (1 Gorffennaf - 30 Medi 2022) byddem ni'n falch o glywed gennych chi os ...
ydych chi eisoes yn darparu gweithgareddau yn ystod y cyfnod hwn
yr hoffech / os allwch gynnig rhagor o weithgareddau yn ystod y cyfnod hwn
oes gennych syniadau am weithgareddau y gallech eu cynnig yn ystod y cyfnod hwn
ydych chi'n gwybod am wasanaeth neu sefydliad a fyddai â diddordeb mewn cynnig gweithgareddau
oes rhaid i weithgareddau sy'n rhedeg yn ystod y tymor redeg y tu allan i oriau ysgol
Mae ceisiadau a chanllawiau ar gael drwy'r dolenni canlynol: