Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

GIG - Gofal iechyd parhaus

Darperir gan Theresa Gee a Rachel Townsend

Cynulleidfa Darged: Timau Gweithwyr Cymdeithasol / Darparwyr Annibynnol, Preifat a Gwirfoddol / Byw â Chymorth

Mae penderfynu a oes gan berson "angen iechyd sylfaenol" yn gallu bod yn gymhleth iawn.  I sicrhau deilliannau positif i'r oedolyn dan sylw, mae'n hanfodol fod gweithwyr proffesiynol yn deall y ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau, cyfraith achosion, prosesau, polisiau a gweithdrefnau, a rolau a chyfrifoldebau gwahanol asiantaethau sydd wrth wraidd y maes cymhleth hawn.

Nod

Gwneud i'r sawl sy'n bresennol deimlo'n fwy hyderus gyda phroses GIP

Deilliannau Dysgu

  • Cael dealltwriaeth ymarferol am broses GIP
  • Gwybod pan fydd Deddf Galluedd Meddyliol a Lles Pennaf yn angenrheidiol
  • Cael dealltwriaeth well am ba dystiolaeth sy'n ofynnol
  • Cael dealltwriaeth well o'r rhestr wirio a DST
  • Deall yr angen i gofnodi canlyniad DST
  • Cael yr hyder wrth gymhwyso'r 4 dangosydd allweddol
  • Gofynion cyfreithiol

Dyddiadau (10am - 3pm):

  • 26 Ebrill 2023 Lleoliad: Ystafell Bwyllgor A, Gwalia, Llandrindod LD1 6AA
  • 20 Mehefin 2023 Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2, Neuadd Brycheiniog, Aberhonddu LD3 7HR
  • 14 Medi 2023 Lleoliad:  NPTC, Theatr Hafren, Ffordd Llanidloes, Y Drenewydd SY16 4HU

Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd.

Mynegi diddordeb yn y cwrs hwn Expression of Interest Form for Training Courses

Cyswllt

Eich sylwadau am ein tudalennau