GIG - Gofal iechyd parhaus ar gyfer Gwasanaethau Oedolion
Darperir gan Bond Solon dros Teams.
Mae penderfynu a oes gan berson "angen iechyd sylfaenol" yn gallu bod yn gymhleth iawn. I sicrhau deilliannau positif i'r oedolyn dan sylw, mae'n hanfodol fod gweithwyr proffesiynol yn deall y ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau, cyfraith achosion, prosesau, polisiau a gweithdrefnau, a rolau a chyfrifoldebau gwahanol asiantaethau sydd wrth wraidd y maes cymhleth hawn.
AMCANION Y CWRS
Bydd y cwrs undydd hwn yn addysgu'r rhai sydd yno sut i ddeall canllawiau perthnasol y Llywodraeth a sut y gwneir penderfyniadau ar Ofal Iechyd Parhaus y GIG yn ogystal ag osgoi peryglon yn y broses gwneud penderfyniadau. Bydd y rhai sydd yno'n ystyried y broses sgrinio ac asesu, ynghyd â'r broses o adolygu ac apelio penderfyniadau gofal parhaus.
PRIF BWYNTIAU DYSGU
- Gallu defnyddio'r ddeddfwriaeth a'r cyfraith achosion perthnasol yn ymarferol ac yn hyderus mewn achosion CHC.
- Cydnabod pwysigrwydd tystiolaeth yn y broses sgrinio, asesu, adolygu ac apelio.
- Cynnal rhestr wirio cymhwystra CHC o ran arferion gorau.
- Nodi unrhyw ddiffygion posibl yn y broses gwneud penderfyniadau.
- Nodi a herio penderfyniadau anghywir o ran CHC
- Casglu tystiolaeth dibynadwy a derbyniol
- Cydnabod pwrpas panel adolygu a'r wybodaeth sydd ei hangen.
- Dilyn y broses apelio'n gywir.
Dyddiadau:
- 7 Gorffennaf 2022, 9.30am - 4.30pm
- 4 Hydref 2022, 9.30am - 4.30pm
Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd.
Mynegi diddordeb yn y cwrs hwn Expression of Interest Form for Training Courses