Toglo gwelededd dewislen symudol

Ardal ddi-sbwriel yn Nhal-y-bont (Buttington)

Image of litter pickers in Buttington Litter Free Zone

14 Mehefin 2022

Image of litter pickers in Buttington Litter Free Zone
Mae Cynghorwyr, staff, gwirfoddolwyr Cadw Cymru'n Daclus a busnesau lleol wedi dod at ei gilydd i greu ardal ddi-sbwriel yn Nhal-y-bont. 

Fel rhan o fenter Caru Cymru i gael gwared ar sbwriel, mae cynllun ardaloedd di-sbwriel yn annog busnesau i fabwysiadu ardaloedd o fewn eu cymunedau i'w cadw'n glir o sbwriel.

McDonalds yn Nhal-y-bont, gogledd Powys yw un o fusnesau cyntaf y sir i ymuno â chynllun newydd Cadw Cymru'n Daclus.  Fel busnes cyfrifol, nid yn unig maen nhw'n cadw'r maes parcio a'r lle tu allan yn lân, ond maen nhw hefyd wedi mabwysiadu'r ardal o amgylch y safle, gan gynnwys y Gamlas a lle picnic yr Ymddiriedolaeth Afonydd ger yr hen odynau calch yng Nghei Tal-y-bont.

"Mae casglu sbwriel yn gallu trawsnewid ardal, o un sy'n edrych yn fler i rywle y gall pobl ymfalchio ynddo," dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach.

"Mae annog busnesau a'u staff i helpu i gadw'r ardaloedd lleol yn lân, daclus ac yn glir o sbwriel yn rhan o fenter Caru Cymru gyfan sy'n ceisio ysbrydoli pawb i gymryd camau a gofalu am yr amgylchedd.

"Trwy weithio gyda'n gilydd i greu amgylchedd glân a diogel, gallwn greu cymunedau cryfach ac iachach a gwneud gwahaniaeth mawr i'r blaned.

"Hoffwn annog mwy o fusnesau ym Mhowys i gymryd rhan a mabwysiadu ardal ddi-sbwriel.  Nid yn unig y bydd dangos i gwsmeriaid eu bod yn fusnes cyfrifol sy'n cymryd sbwriel o ddifrif, ond mae gadael i staff fod yn rhan o brosiectau cymunedol yn helpu i roi hwb i gynhyrchiant, morâl staff a chadw staff.

"Rydym yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth gwirfoddolwyr Cadw Cymru'n Daclus a fydd yn gallu cynnig adnoddau a help i'r busnesau hynny sy'n cymryd rhan a rhoi cyhoeddus i'w statws fel Ardal ddi-sbwriel."

Am fwy o wybodaeth ar ardaloedd di-sbwriel a sut mae cymryd rhan, ewch i: https://keepwalestidy.cymru/caru-cymru/cy/ardaloedd-di-sbwriel/

Yn y llun: Rachel Palmer o Gadw Cymru'n Daclus, James Thompson Cyngor Sir Powys, Sarah, Alex a Kieran o McDonalds a'r Cynghorydd Amanda Jenner.