Crynodeb o Ein Gweledigaeth i Bowys
Ein Gweledigaeth
Adeiladu Powys gryfach, decach a gwyrddach
Ein huchelgais yw helpu Powys i ddod yn sir sy'n gryfach gyda'n gilydd, gyda chymunedau a phobl sy'n gadarn yn bersonol ac yn economaidd ac wedi'u cysylltu'n dda. Bydd lleisiau trigolion yn helpu i lywio'n gwaith a'n blaenoriaethau a bydd mynediad tecach, mwy cyfartal, at wasanaethau a chyfleoedd lleol. Byddwn yn ymdrin â'n cynlluniau mewn ffordd wyrddach, gan ganolbwyntio ar les a sicrhau dyfodol hirdymor y sir, gyda chynaliadwyedd a bioamrywiaeth wrth wraidd popeth a wnawn.