1. Logio Mewn / Cofrestru
  2. English
Close Icon
  1. Logio Mewn / Cofrestru
Hysbysiad: taliadau gwastraff gardd wedi'u lleihau
Darllen mwy

Llyfrgell Llandrindod i ymestyn oriau agor

Image cynrychioli Llyfrgell Llandrindod i ymestyn oriau agor
3 Hydref 2017 

pupilsBydd llyfrgell canol Powys yn ymestyn ei oriau agor yn ddiweddarach ym mis Hydref yn ystod digwyddiad blynyddol sy'n tynnu sylw at weithgareddau amrywiol sydd gan lyfrgelloedd y DU i'w cynnig.

Mae Llyfrgell Llandrindod yn dathlu Wythnos y Llyfrgelloedd trwy agor am 9am yn ystod yr wythnos o ddydd Llun, 9 Hydref, gan roi dwy awr a hanner ychwanegol bob wythnos i bawb wneud y gorau o'r adnoddau.

Digwyddiad blynyddol yw Wythnos y Llyfrgelloedd (9 - 14 Hydref) i arddangos yr holl weithgareddau creadigol, arloesol ac amrywiol sydd gan lyfrgelloedd y DU i'w cynnig. Mae'r wythnos yn rhoi cyfle i ddarganfod yr ystod o bethau y gallwch chi eu gwneud yn eich llyfrgell - o chwarae a dysgu i blant, i reoli'ch iechyd, mynediad at y we a gemau, dod o hyd i swydd, hobi neu ddechrau busnes.

Dywedodd y Cynghorydd Rachel Powell, Aelod Cabinet ar faterion Llyfrgelloedd: "Ry'n ni am i bobl fanteisio ar yr amseroedd agor cynharach i ddychwelyd eu llyfrau a phori'r silffoedd ar gyfer llyfrau gwych.

"Mae rhaglenni am ddim ar gael i'r aelodau hynny sydd angen mynediad i'r llyfrgell ar frys neu o ran cyfleustra.  Mae hyn yn sicrhau bod yr adnodd gwerthfawr hwn yn cael ei ddefnyddio i'w llawn botensial ar gyfer pawb yn y gymuned o'r ifanc iawn i'n haelodau hyn."

Am fanylion yr amseroedd agor newydd yn Llyfrgell Llandrindod ewch i www.powys.gov.uk/llandrindodlibrary

Gallwch weld y digwyddiadau sy'n cael eu cynnal yn ystod Wythnos y Llyfrgelloedd yn www.powys.gov.uk/library a chliciwch ar y ddolen 'Dod o hyd i'ch llyfrgell agosaf'.

Rhannwch y dudalen hon

Facebook icon Twitter icon Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu