Diogelu Oedolion mewn Perygl o Niwed
Darperir gan Keith Jones JMG Training & Consultancy
Mae'r hyfforddiant Diogelu Oedolion mewn Perygl o Niwed ar gyfer achosion diogelu cymhleth a bydd yn cynnwys cyfraith achosion diweddar.
Nodau
Mae'r cwrs yma ar gyfer uwch ymarferwyr sy'n rheoli ac yn cefnogi oedolion mewn perygl o niwed.
Amcanion
Dysgu defnyddio'r gyfraith mewn perthynas â diogelu oedolion, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 Cymru, Deddf Hawliau Dynol, Deddf Galluedd Meddyliol a Threfniadau Diogelu wrth Amddifadu Rhyddid.
Bydd yn cynnwys diweddariad ar gyfraith achosion diweddar mewn perthynas â diogelu oedolion mewn perygl, sy'n berthnasol yng Nghymru.
Deall awdurdodaeth briodol o ran achosion sy'n mynd gerbron yr Uchel Lys i ddiogelu'r unigolyn mewn perygl.
Dyddiadau:
- 8 Medi 2022, 1pm - 4pm
- 11 Hydref 2022, 9.30am - 12.30pm
- 3 Tachwedd 2022, 1pm - 4pm
- 1 Rhagfyr 2022, 9.30am - 12.30pm
Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd.
Mynegi diddordeb yn y cwrs hwn Expression of Interest Form for Training Courses