Ailagor canolfannau dydd Powys yn raddol
10 Awst 2022
Mae rhai canolfannau wedi agor a bydd swyddogion Gwasanaethau Cymdeithasol yn cwrdd â darparwyr canolfannau dydd annibynnol yn fuan iawn i drafod anghenion penodol y gwasanaeth.
"Mae'r pandemig wedi atal ein trigolion hŷn rhag gallu mynd allan, cwrdd â ffrindiau a gwneud y pethau maen nhw'n ei fwynhau. Rydym yn deall pa mor bwysig yw canolfannau dydd i'r rhai sy'n eu defnyddio, o ran creu lle i gysylltu a chadw'n brysur, a pha mor bwysig ydyn nhw i ofalwyr gan roi amser i weithio neu gael seibiant o'u gwaith gofalu," dywedodd y Cynghorydd Sian Cox, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Ofalgar.
"Rydym yn cydnabod cyfraniad aruthrol gofalwyr di-dâl ar draws y sir i'r gymuned, a'u bod angen amser i orffwys a chael eu nerth yn ôl, neu i wneud pethau eraill.
"Byddwn yn ailagor Canolfannau Dydd yn raddol gan fod y pandemig wedi effeithio ar nifer y staff sydd gennym ac wedi gosod cyfyngiadau ar ddod nôl i'r gwaith ar ôl salwch; ac mae'n rhaid i ni sicrhau fod digon o staff ym mhob canolfan sy'n ailagor er mwyn gweithio'n ddiogel. Hyd yma, mae Canolfannau Dydd Aberhonddu, Ystradgynlais a Llanidloes wedi agor.
"Mae Canolfan Dydd y Parc yng Ngogledd Powys wedi'i phrydlesu i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys tan Chwefror 2023 a bydd y Bwrdd yn ei defnyddio fel canolfan frechu tan hynny. Byddwn yn gweithio ochr yn ochr â'r bobl a effeithiwyd gan hyn er mwyn ystyried sut y gallwn gynnig gymaint â phosibl o'r hyn oedd yno, ond mewn ffyrdd gwahanol.
"Nid oes dyddiad agor i'r gwasanaethau dydd yn Llandrindod gan fod rhai o'r staff yn gweithio ar wasanaethau hanfodol eraill megis y gwasanaeth ailalluogi ac nid oes digon o staff hyd yma i agor y Ganolfan Ddydd yn ddiogel.
"Mae ein staff yn gweithio ochr yn ochr â phobl er mwyn deall beth sy'n bwysig iddyn nhw, felly rydym yn siarad â thrigolion hŷn ac yn gweithio mewn partneriaeth â nhw ac eraill i ystyried sut y gallwn eu helpu i gysylltu â ffrindiau, gwneud y pethau pleserus a chymryd rhan mewn gweithgareddau eraill yn eu cymunedau, ynghŷd ag ailagor Canolfannau Dydd," ychwanegodd.