Toglo gwelededd dewislen symudol

Dyfodol canol ein trefi

Image showing how Brecon Town centre could look in the future

18 Awst 2022

Image showing how Brecon Town centre could look in the future
Bydd y cyfnod ymgynghori i edrych ar sut y gallwn wella mannau cyhoeddus yng nghanol trefi Aberhonddu a Chrughywel yn dechrau'r wythnos hon.

Ynghŷd ag Amey Consulting ac LDA Design, mae Cyngor Sir Powys yn edrych ar sut y gallwn wella'r mannau cyhoeddus yng nghanol trefi Aberhonddu a Chrughywel ac yn awyddus i glywed barn, profiadau a phryderon pobl leol, busnesau ac ymwelwyr ar sut maen nhw'n defnyddio canol trefi a sut y gellid eu gwella.

Yn Aberhonddu mae'r ffocws ar wella blaenoriaeth a phrofiadau cerddwyr, gwella cysylltiadau a bioamrywiaeth a chreu mannau cyhoeddus diogel a hwylus sy'n gwella rhinweddau unigryw'r dref ar hyd y Stryd Fawr gan gynnwys y Struet, Stryd Fawr Uchaf, Stryd Fawr Isaf a'r Gwrthglawdd.

Yng Nghrughywel, mae'r ffocws ar wella blaenoriaeth a phrofiadau cerddwyr, ystyried problemau draenio a gwella hunaniaeth ar hyd y Stryd Fawr.

"Mae'r prosiectau hyn wedi deillio o osod cyfyngiadau Covid dros dro yn 2020 ar gyfer cadw pellter cymdeithasol gan greu lle ychwanegol i gerddwyr a gostwng nifer y llefydd parcio," esboniodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach.

"Mae'r mesurau dros dro hyn wedi tynnu sylw at sut y gall canol ein trefi ni ddatblygu a gwneud defnydd gwahanol o le.  Mae'r pandemig wedi arwain at brofi elfen o ddiwylliant caffi  yn ein trefi a gwneud yn fawr o'n hardaloedd awyr agored, sy'n rhywbeth y mae nifer am ei gadw i'r dyfodol.

"Yn dilyn gwaith ymgynghori anffurfiol gyda chymunedau lleol nôl ym mis Mehefin 2021, rydym wedi ystyried sylwadau pobl a chymryd y cyfle i edrych ar sut ac os y dylai'r mesurau dros dro hyn fod yn rhai parhaol a pha gyfleoedd a manteision eraill sydd i'w gweld.

"Mae'n bwysig pwyso a mesur barn pawb sy'n defnyddio canol ein trefi; ymwelwyr, trigolion a busnesau.  Bydd y gwaith ymgynghori hwn yn arwain at gael adborth gwerthfawr iawn a fydd yn llywio sut y bydd canol trefi'n edrych, yn gweithio ac yn teimlo yn y dyfodol."

I weld y cynigion ar sut i wella mannau cyhoeddus yng nghanol trefi Aberhonddu a Chrughywel ac i gyflwyno barn, ewch i: https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/trawsnewid-tref-powys