Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Costau byw: Help i deuluoedd gyda phlant!

Children eating their dinner at school

31 Awst 2022

Children eating their dinner at school
Os ydych chi'n cael trafferth gyda chostau byw ac ar incwm isel, a oeddech chi'n gwybod y gallech chi gael help i dalu am brydau ysgol eich plentyn?

Mae hyn yn berthnasol i bob dysgwr mewn addysg llawn amser, a gallech arbed hyd at £400 y flwyddyn ar gyfer pob plentyn oed ysgol gynradd, helpu ysgol eich plentyn i elwa ar gyllid ychwanegol a'ch helpu chithau i fod yn gymwys i gael mathau eraill o gymorth.

Oherwydd y dull talu a ddefnyddir yn ysgolion Powys, ni fydd disgyblion eraill yn gwybod bod eich plentyn yn derbyn prydau ysgol am ddim.

Yn ogystal â hyn, bydd prydau ysgol am ddim yn cael eu cynnig i holl ddisgyblion ysgolion cynradd Cymru erbyn mis Medi 2024.  Bydd hyn yn berthnasol i'r plant ieuengaf yn gyntaf, sy'n golygu y bydd pob plentyn yn y dosbarth Derbyn ym Mhowys yn eu derbyn o ddechrau tymor yr hydref ym mis Medi 2022, a'r rheiny ym mlynyddoedd 1 a 2 yn eu derbyn ddim hwyrach na dechrau tymor yr haf, ym mis Ebrill 2023.

Os ydych chi ar incwm isel, parhewch i hawlio am brydau ysgol am ddim trwy wefan Cyngor Sir Powys (CSP) Prydau Ysgol am Ddim oherwydd gallech hefyd fod â hawl i gefnogaeth arall megis grant Mynediad (sef y Grant Datblygu Disgyblion) PDG am wisg a dillad ysgol arall.

Mae'r ffenestr ymgeisio am grantiau dillad ysgol ar gyfer blwyddyn academaidd mis Medi 2022 hyd at fis Mehefin 2023 bellach ar agor. Os ydych chi'n gymwys i dderbyn y grant, dylech fod wedi derbyn llythyr gan CSP gyda rhif/rhifau disgybl i'w defnyddio.

Gall rhieni plant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim hefyd wneud cais am   grant Mynediad PDG (a elwir weithiau yn Grant Gwisg ysgol), ac y gellir ei ddefnyddio i helpu gyda chostau ysgol megis gwisg ysgol ac offer.  Eleni, swm y grant yw £225 i bob dysgwr neu £300 i'r rhai sy'n dechrau blwyddyn 7 (£100 yn fwy nag y mae fel arfer).

Mae Cynnig Gofal Plant Cymru yn darparu hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant sy'n cael eu hariannu gan y llywodraeth i rieni plant cymwys tair a phedair oed am 48 wythnos y flwyddyn. Mae hyn yn adeiladu ar yr ymrwymiad presennol, sy'n rhoi o leiaf 10 awr yr wythnos o ddarpariaeth addysg gynnar i bob plentyn tair a phedair oed a adwaenir fel Meithrin Cyfnod Sylfaen.

Gall Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Powys hefyd roi arweiniad ar help ariannol gyda chostau gofal plant: www.gwybodaethgofal plant.cymru/fis/W06000023 Ffôn: 01597 826058 neu e-bost: fis@powys.gov.uk

Mae cynhyrchion mislif hefyd ar gael  i ddysgwyr, i'w casglu am ddim, ym mhob ysgol ym Mhowys, naill ai o swyddfa'r ysgol, aelod staff dynodedig neu beiriant gwerthu heb arian parod  (ysgolion uwchradd yn unig).  I gael mwy o wybodaeth am gymorth urddas mislif i ddisgyblion yn ysgolion Powys, anfonwch e-bost at: education@powys.gov.uk

Mae rhagor o gyngor am gymorth gyda chostau byw hefyd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru: https://llyw.cymru/cael-help-gyda-chostau-byw