Cadeirydd yn talu teyrnged i'r Frenhines
8 Medi 2022
"Ar ran Cyngor Sir Powys, a phobl Powys, hoffwn fynegi ein tristwch mawr o glywed y newyddion am farwolaeth Ei Mawrhydi, y Frenhines Elizabeth II," meddai'r Cynghorydd Gareth Ratcliffe.
"Ar y cyd â nifer o gymunedau eraill yng Nghymru a ledled y byd, rydym yn estyn ein cydymdeimlad twymgalon i'r Teulu Brenhinol ar yr adeg anodd hon.
"Mae'r Frenhines Elizabeth II wedi bod yn ddigyfnewid ym mywyd cenedl Prydain a'r Gymanwlad, gan ymroi ei holl fywyd fel oedolyn i wasanaethu'r wlad.
"Roedd gan bobl Powys ynghyd â phobl ar draws y DU a thramor parch enfawr tuag at y Frenhines, a bydd colled fawr ar ei hôl. Nawr, gyda thristwch mawr, bydd ein sir yn ymuno â gweddill y DU i alaru diwedd ei bywyd a'i theyrnasiad rhyfeddol."