Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am Swyddogion Cymorth Ariannol

Ydych chi'n un o Denantiaid Cyngor Sir Powys? Yn cael trafferth talu'r rhent a biliau eraill? Nid yw'ch arian yn mynd yn bell? Dioddef oherwydd dyledion?  Angen cymorth ariannol?

Mae gennym Swyddogion Cymorth Ariannol sy'n cynnig y canlynol am ddim:

  • Eich helpu cael hyd i ffyrdd i wneud y defnydd gorau o'ch incwm
  • Eich helpu gwneud cais am fudd-daliadau, grantiau lles, a rhoi cyngor ar eich hawliau a chymorth parhaus
  • Eich helpu i reoli eich arian trwy gyllidebu'n well
  • Eich helpu i dorri eich gwariant
  • Eich cyfeirio at asiantaethau eraill sy'n gallu eich helpu

Er enghraifft

  • Ai pensiynwr ydych ar incwm isel? Ar hyn o bryd mae £1.7 biliwn o Gredyd Pensiwn yn mynd heb ei hawlio bob blwyddyn; gall rhoi £3,300 ychwanegol y flwyddyn ichi.
  • Ydych chi'n gweithio, ac mae gennych blant? Efallai y bydd gennych hawl i
  •  Gredyd Cynhwysol
  • Oes gennych chi broblemau iechyd, neu ydych chi'n gofalu am rywun gyda phroblemau iechyd? Hwyrach y bydd gennych hawl i fudd-daliadau ychwanegol

Gall eich Swyddog Cymorth Ariannol roi'r cymorth canlynol ichi?

Gall eich Swyddog Cymorth Ariannol roi'r cymorth canlynol ichi:

  • Manteisio i'r Eithaf ar eich Incwm - sicrhau fod tenantiaid yn derbyn yr holl incwm y mae ganddynt hawl iddo (gwiriad budd-daliadau am ddim trwy Entitledto neu Turn2us) sy'n cynnwys Credyd Cynhwysol, Taliadau Annibyniaeth Personol, Lwfans Byw i'r Anabl, Lwfans Gweini, Lwfans Gofal, Credyd Pensiwn ac ati.
  • Cymorth i Gyllidebu - helpu lleihau eich costau trwy dynnu sylw at unrhyw grantiau/cynlluniau sydd ar gael
  • Statws Partner Dibynadwy gyda DWP -  helpu tenantiaid gyda phroblemau sy'n gysylltiedig â hawliau Credyd Cynhwysol, Credyd Pensiwn neu fudd-daliadau blaenorol
  • Budd-dal Tai/Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor - helpu tenantiaid gyda cheisiadau ac ymholiadau trwy Incwm a Dyfarniadau
  • Cynlluniau Grant Caledi - sy'n helpu tenantiaid i wneud cais am gymorth gydag ôl-ddyledion rhent, treth ystafell wely, nwyddau gwynion, costau symud ac ati trwy'r Taliad Disgresiwn ar Gostau Tai, Cronfa Cymorth Dewisol ac ati
  • Help gyda Chyfleustodau - helpu tenantiaid gyda grantiau mynediad, cynlluniau a mentrau ar gyfer y sawl sy'n cael trafferth talu costau cyfleustodau, costau ynni a dŵr
  • Cyngor ar Ddyledion - atgyfeirio tenantiaid at Gynghorwyr Dyled cymwys arbenigol
  • Cyllid yr Aelwyd - helpu gyda chyllid yr aelwyd gyfan h.y. Grantiau Mamolaeth Cychwyn Cadarn, Lwfans Cynhaliaeth Addysg, Prydau Ysgol am ddim ac ati
  • Gwiriadau Iechyd Ariannol Cyn-tenantiaeth - adnabod unrhyw ofynion cymorth i sicrhau fod ein Tenantiaid yn gallu llwyddo i gadw eu tenantiaethau

Cyswllt

Eich sylwadau am ein tudalennau