Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am Swyddogion Cymorth Ariannol

Gwybodaeth am Swyddogion Cymorth Ariannol

Ydych chi'n un o Denantiaid Cyngor Sir Powys? Yn cael trafferth talu'r rhent a biliau eraill? Nid yw'ch arian yn mynd yn bell? Dioddef oherwydd dyledion?  Angen cymorth ariannol?

Mae gennym Swyddogion Cymorth Ariannol sy'n cynnig y canlynol am ddim:

  • Eich helpu cael hyd i ffyrdd i wneud y defnydd gorau o'ch incwm
  • Eich helpu gwneud cais am fudd-daliadau, grantiau lles, a rhoi cyngor ar eich hawliau a chymorth parhaus
  • Eich helpu i reoli eich arian trwy gyllidebu'n well
  • Eich helpu i dorri eich gwariant
  • Eich cyfeirio at asiantaethau eraill sy'n gallu eich helpu

Er enghraifft

  • Ai pensiynwr ydych ar incwm isel? Ar hyn o bryd mae £1.7 biliwn o Gredyd Pensiwn yn mynd heb ei hawlio bob blwyddyn; gall rhoi £3,300 ychwanegol y flwyddyn ichi.
  • Ydych chi'n gweithio, ac mae gennych blant? Efallai y bydd gennych hawl i
  •  Gredyd Cynhwysol
  • Oes gennych chi broblemau iechyd, neu ydych chi'n gofalu am rywun gyda phroblemau iechyd? Hwyrach y bydd gennych hawl i fudd-daliadau ychwanegol

Gweler am Gall eich Swyddog Cymorth Ariannol roi'r cymorth canlynol ichi? gymorth pellach sydd ar gael gennym.

Gallwch gysylltu â ni trwy:

Eich Swyddog Tai

Neu drwy e-bostio: housing@powys.gov.uk

Neu ffonio: 01597 827464