Gwybodaeth am Swyddogion Cymorth Ariannol
Gall eich Swyddog Cymorth Ariannol roi'r cymorth canlynol ichi?
Gall eich Swyddog Cymorth Ariannol roi'r cymorth canlynol ichi:
Manteisio i'r Eithaf ar eich Incwm - sicrhau fod tenantiaid yn derbyn yr holl incwm y mae ganddynt hawl iddo (gwiriad budd-daliadau am ddim trwy Entitledto neu Turn2us) sy'n cynnwys Credyd Cynhwysol, Taliadau Annibyniaeth Personol, Lwfans Byw i'r Anabl, Lwfans Gweini, Lwfans Gofal, Credyd Pensiwn ac ati.
Cymorth i Gyllidebu - helpu lleihau eich costau trwy dynnu sylw at unrhyw grantiau/cynlluniau sydd ar gael
Statws Partner Dibynadwy gyda DWP - helpu tenantiaid gyda phroblemau sy'n gysylltiedig â hawliau Credyd Cynhwysol, Credyd Pensiwn neu fudd-daliadau blaenorol
Budd-dal Tai/Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor - helpu tenantiaid gyda cheisiadau ac ymholiadau trwy Incwm a Dyfarniadau
Cynlluniau Grant Caledi - sy'n helpu tenantiaid i wneud cais am gymorth gydag ôl-ddyledion rhent, treth ystafell wely, nwyddau gwynion, costau symud ac ati trwy'r Taliad Disgresiwn ar Gostau Tai, Cronfa Cymorth Dewisol ac ati
Help gyda Chyfleustodau - helpu tenantiaid gyda grantiau mynediad, cynlluniau a mentrau ar gyfer y sawl sy'n cael trafferth talu costau cyfleustodau, costau ynni a dŵr
Cyngor ar Ddyledion - atgyfeirio tenantiaid at Gynghorwyr Dyled cymwys arbenigol
Cyllid yr Aelwyd - helpu gyda chyllid yr aelwyd gyfan h.y. Grantiau Mamolaeth Cychwyn Cadarn, Lwfans Cynhaliaeth Addysg, Prydau Ysgol am ddim ac ati
Gwiriadau Iechyd Ariannol Cyn-tenantiaeth - adnabod unrhyw ofynion cymorth i sicrhau fod ein Tenantiaid yn gallu llwyddo i gadw eu tenantiaethau