Gwasanaeth Anabledd Integredig - Gwasanaethau Plant

Gwasanaeth amlasiantaethol yw Gwasanaeth Anabledd Integredig (GAI) Powys lle mae pobl broffesiynol o'r meysydd iechyd ac addysg, ynghyd â gwasanaethau gofal cymdeithasol i blant ac asiantaethau gwirfoddol yn cydweithio i gynnig cefnogaeth i blant a phobl ifanc ag anableddau a'u teuluoedd.
Mae'r gwasanaeth yn dechrau gydag atgyfeiriad a ffurflen asesiad gan un neu ragor o'r timoedd a restrir isod. Os yw hyn yn dangos fod 2 neu ragor o'r timoedd hyn yn gweithio gyda chi a'ch plentyn, bydd cyfarfod Tîm o Amgylch y Teulu yn cael ei drefnu i gwrdd gyda chi, trafod y gefnogaeth y byddwch ei hangen o bosibl, a chytuno ar gynllun gweithredu. Dim ond os byddwch chi a/neu eich plentyn yn cytuno y gwneir hyn.
Ein nod yw gweithio gyda chi i alluogi eich plentyn neu unigolyn ifanc i gyrraedd eu llawn potensial a chynyddu eu hannibyniaeth.
Y timoedd a'r gwasanaethau sy'n cymryd rhan yw:
- Paediatreg a Ffisiotherapi 14+, Therapi Galwedigaethol, Therapi Iaith a Lleferydd
- Nyrsio Cymunedol i Blant a Nyrsio mewn Ysgolion Arbennig
- Gwasanaeth Portage
- Nyrsio Anableddau Dysgu
- Paediatregwyr Cymunedol
Cyngor Sir Powys
- Gwasanaeth Ysgolion
- Seicoleg Addysgol
- Gwasanaeth Synhwyraidd
- Gwasanaethau Plant
- Tim Plant Anableddau
- Gweithredu dros Blant - Cymorth Cymunedol
- Gwasanaethau Oedolion
- Gweithwyr Cymdeithasol Cyfnodau Pontio
- Therapyddion Galwedigaethol (ar gyfer Addasiadau)
Mae'r Gwasanaeth Anabledd Integredig ar gyfer Gwasanaethau Plant yn unig, ar gyfer gofal a chefnogaeth i oedolion, cysylltwch â CYMORTH
Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau
