Cyllid ar gael i adfer cofebion y Rhyfel Byd Cyntaf

10 Hydref 2017 |
Mae cymunedau ym Mhowys yn cael eu hannog i wneud cais am gyllid i helpu i gadw cofebion y Rhyfel Byd Cyntaf ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae gan Brosiectau Cofebion Rhyfel Powys gyllid i atgyweirio, adfer neu gynnal cofebion Rhyfel Byd Cyntaf yn y sir.
£5,000 yw'r uchafswm grant sydd ar gael ar gyfer gwaith atgyweirio ar gyfer un gofeb, ac mae £200 ar gael tuag at gyffiniau'r gofeb.
Mae unrhyw fath o gofeb yn y sir sy'n coffáu'r Rhyfel Byd Cyntaf yn gymwys i dderbyn arian, gan gynnwys obelisgau carreg, ffenestri gwydr lliw, meinciau, placiau, cerfluniau neu neuaddau.
Gall y prosiect dalu hyd at 90% o gost y gwaith, a byddai'n rhaid i'r gweddill ddod o nawdd cyfatebol. Mae'r broses ymgeisio am nawdd yn gyflym ac yn rhwydd, ond bydd y nawdd yn cael ei ystyried ar sail y cyntaf i'r felin gaiff falu.
Dywedodd y Cyng Martin Weale, Aelod Portffolio ar Adfywio a Chynllunio: "Mae Prosiect Cofebion Rhyfel Powys yn dangos arwydd o barch i'r unigolion hynny a adawodd Powys gan aberthu eu bywydau.
"Mae cofebion yn rhan annatod o unrhyw dref, pentref a chymuned, ac yn cynnig canolbwynt ar gyfer y cofio. Mae'r arian yn rhoi cyfle i Bowys gofio a sicrhau bod y cofebion yn cael eu gwarchod a'u diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
Mae Prosiect Cofebion Rhyfel Powys, dan ofal Cyngor Sir Powys, yn coffáu canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, ac mae wedi'i ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, Cadw ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Ymhlith elfennau eraill y prosiect mae adnabod, cofnodi a mapio'r holl gofebion rhyfel ym Mhowys, ac annog a galluogi cymunedau lleol i gynnal ymchwil i fywydau'r dynion a'r merched a enwyd ar gofebion rhyfel y sir.
I gofrestru eich diddordeb, cysylltwch â Nathan Davies, Swyddog Prosiect Cofebion Rhyfel Powys, yn warmemorials@powys.gov.uk