Cymorth Amgen i dalu Biliau Ynni Aelwydydd y Gaeaf hwn
Cafodd Cyngor Sir Powys ei hysbysu am grant newydd a fydd ar gael ledled y DU i gefnogi pobl heb unrhyw gontract uniongyrchol â chyflenwr trydan domestig.
Yn lle hynny, byddan nhw'n gymwys i wneud cais am gymorth drwy gynllun newydd Arian Amgen a chael taliad posibl o £400.
Yn ychwanegol, mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi Taliad Amgen am Danwydd i aelwydydd sy'n defnyddio tanwydd, ac eithrio nwy (fel olew gwresogi,) i wresogi eu cartrefi, sef swm o £200.
Felly, er enghraifft, dyma rai o'r cartrefi sy'n cymhwyso am help o dan y cynlluniau hyn:
- preswylwyr cartrefi gofal
- preswylwyr cartrefi parc
- tenantiaid mewn cartrefi rhent penodol, preifat a chymdeithasol
- cartrefi sy'n derbyn cyflenwad drwy weiren breifat
- preswylwyr carafanau a chychod preswyl ar safleoedd cofrestredig
- ffermwyr sy'n byw mewn ffermdai domestig
- cartrefi oddi ar y grid
Dim ond drwy wefan GOV.UK y caiff ymgeiswyr gyflwyno gwybodaeth, a hynny yn ddiweddarach yn ystod Ionawr 2023.
Bydd y Llywodraeth Ganolog yn gwirio cymhwysedd ac yna ar ôl cymeradwyo, yn gofyn i'r awdurdod lleol wirio a gwneud taliad.
Nid oes gan Gyngor Sir Powys unrhyw wybodaeth bellach am y cynllun hwn a dylech fynd i'r wefan isod i gael gwybodaeth bellach am sut i ymgeisio, a'r broses a phryd y bydd ar agor.
Peidiwch â chysylltu â staff Cyngor Sir Powys achos ni allwn eich helpu chi y tu hwnt i'ch cyfeirio at y wefan.