Ymgynghoriad cyn ymgeisio - Ystradgynlais
Ymgynghoriad cyn ymgeisio ar gyfer datblygiad preswyl yn Ael Y Bryn/ Pen Y Bryn, Ystradgynlais
Cafodd Gwasanaethau Dylunio Peirianneg eu comisiynu gan Gyngor Sir Powys i ymgymryd ag ymgynghoriad cyn ymgeisio (YCY) mewn perthynas â datblygiad arfaethedig yn Ael-y-Bryn/Pen-Y-Bryn, Ystradgynlais.
Rydym yn hysbysu fod Cyngor Sir Powys yn bwriadu gwneud cais am ganiatâd llawn i ddymchwel y pedwar bloc o 24 fflat ac adeiladu pedwar bloc o 16 fflat yn 29-36 Pen-Y-Bryn a 34, 36, 38, 40-49, 51, 53, 55 Ael Y Bryn, Ystradgynlais, Powys, SA9 1JA / SA9 1HY (279167, 210917).
Cyn ei gyflwyno'n ffurfiol i'r Awdurdod Cynllunio Lleol, ac yn unol â gofynion a osodir allan yn Rhan 1A Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygiad)(Cymru) 2012, bydd y cynnig yn amodol ar ymgynghoriad cyn ymgeisio.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn rhoi'r cyfle i chi wneud sylwadau'n uniongyrchol i'r datblygwr am ddatblygiad arfaethedig cyn cyflwyno cais cynllunio i'r Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl). Caiff unrhyw gais cynllunio dilynol eu gwneud yn gyhoeddus gan y ACLl perthnasol; ni chaiff unrhyw sylwadau a ddarparwyd fel ymateb i'r hysbysiad hwn amharu ar eich gallu i wneud sylwadau i'r ACLl am unrhyw gais cynllunio perthnasol. Dylech nodi y gallai unrhyw sylwadau a gyflwynir gael eu gosod ar ffeil gyhoeddus.
Gallwch archwilio copïau o'r cais arfaethedig, y cynlluniau a dogfennau cefnogol eraill yma: https://www.hughesarchitects.co.uk/application-ael-y-bryn-pen-y-bryn-ystradgynlais-powys-county-council. Mae copïau caled o'r ddogfennaeth hefyd ar gael i'w hadolygu yn Llyfrgell Ystradgynlais yn ystod y cyfnod ymgynghori (30.01.2023 - 27.02.2023). Os nad ydych chi'n gallu cael mynediad at y dogfennau'n electronig gallwch wneud cais am gopïau o'r wybodaeth hon drwy e-bostio Simon.Kendrick@powys.gov.uk neu ffonio'r asiant ar 01597 826469.
Rhaid i unrhyw un sydd am wneud sylwadau am y datblygiad hwn ysgrifennu at yr asiant, Simon Kendrick, drwy e-bostio Simon.Kendrick@powys.gov.uk neu Simon Kendrick, Gwasanaethau Dylunio Peirianneg, Neuadd y Sir, Spa Road East, Llandrindod, Powys, LD1 5LG, erbyn 27.02.2023.