#CaruCamlesiPowys cystadleuaeth ffotograffiaeth

21 Chwefror 2023

Mae'r gystadleuaeth ar agor i drigolion ac ymwelwyr a'r nod yw dathlu harddwch camlesi Maldwyn a Sir Fynwy ac Aberhonddu, ac annog pobl i fynd allan i'r awyr agored, darganfod a mwynhau'r dyfrffyrdd.
Ffocws y prosiect Camlesi, Cymunedau a Llesiant yw cynyddu cyfleoedd i'r cyhoedd gael mynediad at a mwynhau gweithgareddau hamdden, teithio llesol yng nghefn gwlad, a meithrin llesiant gwell mewn coridor 5cilometr ar hyd y camlesi sy'n teithio drwy'r sir. Mae partneriaid y prosiect yn cydweithio ar lu o weithgareddau fydd yn golygu fod y camlesi'n fwy hygyrch i bawb.
"Yma ym Mhowys, rydym yn ffodus iawn i allu mwynhau dwy gamles fendigedig, sydd ag arwyddocâd hanesyddol wrth iddynt lifo drwy ein sir," eglurar'r Cyng. Jackie Charlton, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach. "Maent nid yn unig yn chwarae rhan hollbwysig o ran creu cynefinoedd anhygoel, sydd â chyfoeth o natur yn byw ynddynt, ond maent hefyd yn adnoddau unigryw y gall trigolion ac ymwelwyr eu mwynhau.
"Pa well ffordd sydd i ddathlu'r dyfrffyrdd anhygoel hyn na thrwy ddewis eich hoff ffotograffau a chystadlu yng nghystadleuaeth ffotograffiaeth #CaruCamlesiPowys. Bydd cystadleuwyr yn cael y pleser o rannu eu hatgofion gydag eraill, ond hefyd hwyrach y byddant yn ennill gwobrwyon gwych hefyd."
Mae'r gystadleuaeth ar agor i bawb, felly chwiliwch am eich llun gorau, neu ewch â'ch camera gyda chi wrth fynd am dro. Mae pedair thema a dau gategori oedran i'r gystadleuaeth. Bydd dau ffotograff buddugol ar gyfer bob thema'n cael eu dewis yn ystod Ebrill 2023, a bydd yr enillwyr yn derbyn gwobr gan un o'r partneriaid sy'n rhan o'r prosiect. Cofiwch ddefnyddio'r hashnod #Caru CamlesiPowys wrth ddangos eich ffotograffau ar-lein.
Dyddiad cau: 29 Mawrth 2023.
Themâu:
- Dyfrffyrdd Bendigedig
- Natur ar y Gamlas
- Y Gamlas trwy'r Tymhorau
- Camlesi ar fynd
Canllawiau'r Gystadleuaeth:
- Mae'n rhaid i'r lluniau ddangos Camlas Maldwyn neu Gamlas Sir Fynwy/Aberhonddu
- Categorïau: Dan 16, ac Oedolion
- Gellir cyflwyno hyd at 5 llun, ar gyfer pob thema
- Maint lluniau ar ffurf JPG <5mb
- Noder: Ni fedrwn dderbyn lluniau sy'n cynnwys pobl neu blant.
Sut i gymryd rhan:
- Prosiect Camlesi, Cymunedau a Llesiant - Ffotograffiaeth cystadleuaeth (PDF) [259KB]
- Mae ffurflenni cais hefyd ar gael ar dudalen we'r Tîm Cefn Gwlad: www.facebook.com/powys.countryside
- Dylid anfon eich ffurflen, gyda'ch ffotograffau at: Leonie.Gittins@Powys.gov.uk
Dyddiad Cau: 29 Mawrth 2023