Ffordd i gau er mwyn gosod wyneb newydd

16 Hydref 2017 |
Mae Cyngor Sir Powys yn rhybuddio gyrwyr y bydd cefnffordd yng nghanol Powys yn cau am dri diwrnod wythnos yma er mwyn gosod wyneb newydd ar y ffordd.
Cyhoeddodd Cyngor Sir Powys y bydd yr A483 rhwng Llanddewi a Llanbister yn cau yn ystod y dydd er mwyn i gontractwyr osod wyneb newydd ar y ffordd ar ran Llywodraeth Cymru.
Bydd y gwaith yn para tri diwrnod gan ddechrau am 8 a.m. dydd Mercher 18 Hydref. Bydd y ffordd yn ail-agor bob nos am 6 p.m. ac yna'n ail-agor i bob traffig am 6 p.m. nos Wener 20 Hydref.
Dros gyfnod y gwaith, dylai gyrwyr ddilyn yr arwyddion am y ffordd swyddogol arall a fydd yn mynd trwy Y Groes, Rhaeadr, Llangurig a'r Drenewydd.
Am fwy o wybodaeth ewch i www.traffic-wales.com