Toglo gwelededd dewislen symudol

Ymgynghoriad Strategaeth Celfyddydau Powys

People looking at paintings at an art gallery

12 Ebrill 2023

People looking at paintings at an art gallery
Mae'r cyngor wedi cyhoeddi bod cyfnod ymgynghori o dair wythnos wedi dechrau ar gyfer datblygu Strategaeth Gelfyddydau newydd i Bowys.

Ar hyn o bryd mae Cyngor Sir Powys yn cefnogi sefydliadau celfyddydol annibynnol amrywiol i gyflenwi darpariaeth gelfyddydol ledled Powys. Mae'r sefydliadau celfyddydol hyn yn darparu theatr, dawns, cerddoriaeth, celfyddydau gweledol a digidol, gwyliau celfyddydol perfformio a chrefftau.

Cafodd Richie Turner Associates ei gomisiynu gan y cyngor i gyflawni adolygiad o ddarpariaeth cyfredol gwasanaeth celfyddydau Powys, a gweithio â staff y cyngor, lleoliadau Powys a'r sector gelfyddydol ehangach i gyd-ddatblygu strategaeth gelfyddydau newydd a chynllun cyflenwi. 

Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd y Cyngor: "Rwyf yn annog pawb i ymwneud â'r broses hon a dweud eu dweud ynghylch beth allai'r strategaeth gelfyddydol ei gynnwys, p'un ai ydych chi'n ymwneud yn uniongyrchol â'r celfyddydau neu beidio.  Edrychaf ymlaen at weld y strategaeth hon yn datblygu yn dilyn yr ymgynghoriad hwn a sut y bydd yn siapio'r celfyddydau yn y dyfodol yma ym Mhowys."

Gallwch ymateb i'r ymgynghoriad hwn mewn nifer o ffyrdd:

  • Bod yn bresennol yn un o'r cyfarfodydd ymgynghori:
LleoliadDyddiadCyfarfod Artistiaid a Sefydliadau CelfyddydolCyfarfod Cyhoeddus Agored
AberhondduDydd Mercher 19 Ebrill2:00pm - 4:00pm5.30pm - 7.30pm
Y DrenewyddDydd Iau 20 Ebrill3.30pm - 5.30pm6:00pm - 8:00pm
RhaeadrDydd Gwener 21 Ebrill3:00pm - 5:00pm5.30pm - 7.30pm
Ar-leinDydd Sadwrn 22 Ebrill10:00am - 12:00pm1.30pm-3.30pm

 

Am wybodaeth a manylion llawn am y prosiect hwn (gan gynnwys fformatau hygyrch), ac i gofrestru ar gyfer y digwyddiad uchod, ewch i: https://richieturnerassociates.com/powys-arts-strategy-cymraeg/