Ymgynghoriad Strategaeth Celfyddydau Powys

12 Ebrill 2023

Ar hyn o bryd mae Cyngor Sir Powys yn cefnogi sefydliadau celfyddydol annibynnol amrywiol i gyflenwi darpariaeth gelfyddydol ledled Powys. Mae'r sefydliadau celfyddydol hyn yn darparu theatr, dawns, cerddoriaeth, celfyddydau gweledol a digidol, gwyliau celfyddydol perfformio a chrefftau.
Cafodd Richie Turner Associates ei gomisiynu gan y cyngor i gyflawni adolygiad o ddarpariaeth cyfredol gwasanaeth celfyddydau Powys, a gweithio â staff y cyngor, lleoliadau Powys a'r sector gelfyddydol ehangach i gyd-ddatblygu strategaeth gelfyddydau newydd a chynllun cyflenwi.
Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd y Cyngor: "Rwyf yn annog pawb i ymwneud â'r broses hon a dweud eu dweud ynghylch beth allai'r strategaeth gelfyddydol ei gynnwys, p'un ai ydych chi'n ymwneud yn uniongyrchol â'r celfyddydau neu beidio. Edrychaf ymlaen at weld y strategaeth hon yn datblygu yn dilyn yr ymgynghoriad hwn a sut y bydd yn siapio'r celfyddydau yn y dyfodol yma ym Mhowys."
Gallwch ymateb i'r ymgynghoriad hwn mewn nifer o ffyrdd:
- Bod yn bresennol yn un o'r cyfarfodydd ymgynghori:
Lleoliad | Dyddiad | Cyfarfod Artistiaid a Sefydliadau Celfyddydol | Cyfarfod Cyhoeddus Agored |
---|---|---|---|
Aberhonddu | Dydd Mercher 19 Ebrill | 2:00pm - 4:00pm | 5.30pm - 7.30pm |
Y Drenewydd | Dydd Iau 20 Ebrill | 3.30pm - 5.30pm | 6:00pm - 8:00pm |
Rhaeadr | Dydd Gwener 21 Ebrill | 3:00pm - 5:00pm | 5.30pm - 7.30pm |
Ar-lein | Dydd Sadwrn 22 Ebrill | 10:00am - 12:00pm | 1.30pm-3.30pm |
Cwblhewch yr arolwg ar-lein: https://www.surveymonkey.co.uk/r/StrategaethCelfyddydauPowys Y dyddiad cau yw 2 Mai 2023.
Am wybodaeth a manylion llawn am y prosiect hwn (gan gynnwys fformatau hygyrch), ac i gofrestru ar gyfer y digwyddiad uchod, ewch i: https://richieturnerassociates.com/powys-arts-strategy-cymraeg/