Ni all Chwaraeon Powys (‘ni’ o hyn ymlaen) dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am eiddo personol a gollwyd/a ddifrodwyd.
Rydym wedi cwblhau asesiad risg cyfredol a gweithredu trefniadau iechyd a diogelwch ar gyfer pob gweithgaredd. Byddwn yn glynu wrth gyfyngiadau Covid-19 presennol y llywodraeth. PEIDIWCH ag anfon eich plentyn i’r gweithgareddau os ydynt yn dangos symptomau.
Dylai pawb sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon fod yn iach, gyda lefel ffitrwydd rhesymol o sylfaenol. Rhaid i chi roi gwybod i ni ymlaen llaw am unrhyw anghenion arbennig neu broblemau meddygol rydych wedi eu profi a allai effeithio ar y plentyn sy’n cymryd rhan neu rywun arall wrth wneud y gweithgareddau.
Ni fydd Chwaraeon Powys yn gallu cynnig gweithgareddau i unrhyw gleient rydym yn tybio ei fod o dan ddylanwad neu’n dioddef effeithiau cyffuriau neu alcohol.
Mae natur y gweithgareddau rydym yn eu darparu, ynghyd â'r amgylchedd sy'n newid yn gyson (tywydd ac ati) yn golygu bod elfen o risg yn y gweithgareddau na allwn ni byth ei dileu'n llwyr. Mae ein staff hyfforddi yn weithwyr proffesiynol sy'n gweithredu yn unol â'r canllawiau a bennwyd ar gyfer pob gweithgaredd gan gyrff llywodraethu unigol, a'n gweithdrefnau diogelwch mewnol ein hunain. Hefyd mae ein hyfforddwyr yn defnyddio asesiadau risg ychwanegol. Dyletswydd y plant sy’n cymryd rhan yw gwrando'n ofalus ar yr hyn y mae’r hyfforddwyr yn ei ddweud, a dilyn eu cyfarwyddiadau. Bydd ein hyfforddwyr yn rhoi'r gorau i sesiwn os bydd yr amodau, neu ymddygiad unigolyn yn peryglu diogelwch unrhyw aelodau o'r grŵp.