Mathau o Ofal Maeth

Llawn Amser:
Mae maethu llawn amser yn cynnwys:
Tymor byr: pan fod plentyn angen rhywun i ofalu amdanynt am gyfnod penodol wrth wneud cynlluniau ar gyfer dyfodol y plentyn.
Tymor hir: lle nad yw'n bosibl i'r plentyn ddychwelyd adref ac mae angen cartref mwy parhaol arnynt.
Argyfwng: pan fod plentyn yn cael ei roi mewn gofal maeth gydag ond ychydig neu ddim rhybudd.
Rhiant a Baban: pan fod rhieni angen cymorth Gofalwyr Maeth i ddysgu sgiliau rhianta a phan fod Gofalwyr yn cyfrannu at asesiad yr Awdurdod Lleol o'r rhieni.
Rhan Amser:
Gall maethu rhan-amser gynnwys:
Seibiant: Cyfnodau byr o seibiant sydd wedi'u trefnu gyda'r nod o roi cyfnod o seibiant i Ofalwyr Maeth llawn amser, gall hyn fod yn benwythnos neu ragor yn dibynnu ar amgylchiadau unigol.
Cymorth i Ofalwyr: Cyfnodau byr o seibiant i roi cymorth i rieni yn ystod cyfnodau anodd (e.e. oherwydd salwch)
Seibiant byr i blant ag anableddau: Cyfnodau byr o seibiant rheolaidd i blant ag anableddau dysgu a/neu gorfforol sydd hefyd yn rhoi cyfle i deuluoedd gael seibiant o ofalu.
Mathau Eraill o Faethu:
Llety â Chymorth: mae'r Cynllun Llety â Chymorth yn rhoi'r cam nesaf i bobl ifanc (16-24) i fyw'n annibynnol.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r Cydlynydd Llety â Chymorth.
Teulu a Ffrindiau/Perthnasau: Pan fydd aelod o deulu'r plentyn neu ffrind agos i'r teulu yn dod yn Ofalwr Maeth i'r plentyn am gyfnod byr neu gyfnod hirach.
Maethu Preifat: Pan fydd rhywun nad yw'n rhiant neu'n 'berthynas agos' yn gofalu am blentyn dan 16 oed (dan 18 os yw'n anabl) gelwir hyn yn faethu preifat. Trefniant preifat yw hyn sy'n cael ei wneud rhwng rhiant a gofalwr am 28 diwrnod neu'n hirach. Diffiniad o berthynas agos yw llys-tad neu lys-fam, nain, mamgu, taid, tad-cu, brawd/chwaer, ewythr neu fodryb
Cyswllt
Rhowch sylwadau am dudalen yma