Sganio | Ailgylchu | Gwobr - Sut i hawlio tâl?

Rydym eisiau ei wneud mor gyfleus ag sy'n bosibl i chi hawlio tâl. Unwaith y byddwch wedi cofrestru, gallwch ddechrau ailgylchu naill ai yn y cartref neu 'wrth i chi fynd ar eich hynt'!
Gallwch hawlio 10c am bob cynhwysydd perthnasol sy'n cael ei ailgylchu'n gywir. Pan fydd eich balans yn cyrraedd £5.00*, fe fydd yr Ap yn rhoi gwybod i chi fel y gallwch dderbyn eich tâl. Dilynwch y cyfarwyddiadau a ddarperir.
* Canfyddwch mwy am Amodau a Thelerau y treial.
Ailgylchu yn y cartref (mae angen ffonau clyfar)
- Gosodwch y labeli sydd yn y pecyn gwybodaeth a ddaw drwy'r post ar y tu allan i'ch biniau ailgylchu. Cadwch y sticer dan do rywle cyfleus.
- Gan ddefnyddio eich ffôn clyfar, sganiwch unrhyw un o'r labeli ailgylchu a ddarparwyd. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar eich ffôn i gofrestru am gyfrif Sganio|Ailgylchu|Gwobr.
- Ar ôl cofrestru sganiwch unrhyw un o'r labeli ailgylchu gan ddefnyddio eich ffôn clyfar.
- Sganiwch y cod QR (sticer 10c) ar y cynhwysydd diod ac yna ei ailgylchu yn ôl eich arfer.
- Ail-adroddwch gam 4 am bob cynhwysydd diod gwag yr ydych am ei ailgylchu. Gallwch hawlio 10c am bob cynhwysydd sy'n cael ei ailgylchu.
- Gosodwch eich blychau ailgylchu allan ar gyfer y casgliad yn ôl yr arfer. Byddwn yn credydu eich cyfrif gyda 10c am bob eitem sydd wedi ei hailgylchu'n gywir.
Ailgylchu 'Wrth i Chi Fynd ar eich Hynt' - Biniau cymunedol (Mae angen ffonau clyfar)
Gallwch ddefnyddio'r biniau cymunedol a leolir yn y mannau canlynol:
- Maes parcio ALDI, Y Watton, Rich Way
- Sgwâr Bethel (y tu allan i Greggs)
- Sganiwch y cod QR ar y bin i agor yr ap ar eich ffôn.
- Yna pwyswch eicon y bin ar y sgrin.
- Dilynwch y cyfarwyddiadau ar eich ffôn i gyflwyno eich cynhwysydd(ion) diod a hawlio tâl.
Rhaid i'r cynhwysyddion fod yn wag (dim hylif).
NID yw gwydr yn cael ei dderbyn yn y biniau cymunedol. Dim ond adref y gellir ailgylchu cynhwysyddion gwydr perthnasol.
Ailgylchu 'wrth fynd ar eich hynt' - Peiriannau awtomatig (Nid oes angen ffôn clyfar)
Lleolir peiriannau awtomatig yn y lleoliadau hyn:
- Canolfan Hamdden Aberhonddu
- Morrisons
Sganiwch y cod QR ar eich cynhwysydd(ion) gan ddefnyddio'r peiriant a dilyn y cyfarwyddiadau ar y sgrîn. Fe fyddwch yn cael opsiwn i roi arian ar eich cyfrif (bydd angen ffôn clyfar i wneud hyn) neu gymryd tocyn arian parod, a phe dymunir, gellir rhoi hwn i elusen (nid oes angen ffôn clyfar ar gyfer yr opsiwn yma).
Gellir defnyddio tocynnau o'r peiriant awtomatig yn y ganolfan hamdden yng nghaffi'r canolfan hamdden.
Gellir defnyddio tocynnau o'r peiriant awtomatig yn Morrisons yn siop Holland a Barrett.
Rhaid i gynhwysyddion fod yn wag (dim hylifau).
NI DDERBYNNIR gwydr yn y peiriannau awtomatig. Gellir ailgylchu cynwysyddion gwydr perthnasol o'ch cartref yn unig.
Ailgylchu 'Wrth i Chi Fynd ar eich Hynt' - Dychwelyd cynhwysyddion dros y cownter (Dim angen ffôn clyfar)
Gallwch ddychwelyd eich cynhwysydd/ cynhwysyddion diodydd i:
- Holland and Barrett, Sgwâr Bethel
- Premier (Brecon Convenience), Stryd Fawr
- SPAR, Bryn De Winton
Rhaid i gynhwysyddion fod yn wag (dim hylif).
NID yw gwydr yn cael ei dderbyn. Dim ond adref y gellir ailgylchu cynhwysyddion gwydr perthnasol.