Sganio | Ailgylchu | Gwobr - Pa eitemau ac sy'n gymwys am wobr?

Gan mai treial yw hwn, dim ond cynhwysyddion diodydd penodol fydd yn cael eu cynnwys. Dim ond cynhwysyddion sy'n cynnwys y cod QR unigryw (sticer 10c) y gellir eu defnyddio i gael tâl.
Chwiliwch am y labeli hyn ar eich cynhwysydd/cynhwysyddion diodydd

Wedi eu cynnwys yn y treial
- Poteli plastig PET *
Poteli yw'r rhain gyda'r symbol canlynol

e.e., diodydd ysgafn, poteli dŵr, suddion ffrwythau a llysiau (cynhyrchion hir oes), llaeth a dewisiadau arall i laeth (cynhyrchion hir oes), diodydd brecwast (cynhyrchion hir oes), suddion un defnydd, smwddis, diodydd llaeth (wedi'u hoeri), diodydd egni a fitaminau, cymysgwyr, megis tonig a dŵr soda
- Diodydd ysgafn mewn caniau alwminiwm a dur *
- Poteli gwydr yn cynnwys diodydd di-alcohol * (gellir ailgylchu'r rhain gan ddefnyddio eich gwasanaeth casglu ymyl y ffordd)
- Cartonau o'r math Tetra Pak *
* Wedi'u pacio mewn cynhwysyddion 50ml hyd at 2L.
Heb eu cynnwys yn y treial
- Pecynnau diodydd niferus a phecynnau arbennig
- Diodydd alcoholig
- Cynnyrch babanod
- Cynnyrch llaeth ffres a suddion wedi'u hoeri (ac eithrio cynnyrch un defnydd)
- Cordialau/ diodydd i'w gwanhau ar gyfer eu hyfed
- Eitemau nad ydynt mewn pecynau plastifg PET, caniau, gwydr neu gartonau e.e., HDPE, PP
Cofiwch
Hyd yn oed os nad yw eich cynhwysydd wedi'i gynnwys yn y treial, gallwch barhau i ailgylchu eich poteli gwydr, poteli plastig a chaniau fel arfer yn eich blychau ailgylchu ymyl y ffordd. Mae'r treial hwn yn golygu y byddwch yn derbyn tâl am rai ohonynt yn unig.
Am restr lawn o'r eitemau a dderbynnir ym mhob un o'ch blychau ailgylchu ymyl y ffordd, edrychwch ar Sut i gael gwared o ailgylchu a sbwriel (cartref)