Toglo gwelededd dewislen symudol

Sganio | Ailgylchu | Gwobr - Ynglŷn â'r treial

About the trial

Hoffem estyn gwahoddiad i chi gymryd rhan yn nhreial arloesol Sganio|Ailgylchu|Gwobr a fydd yn dechrau yn Aberhonddu ar 13 Gorffennaf. Cynhelir y treial am 12 wythnos ac mae popeth rydych angen ei wybod i gymryd rhan wedi'i gynnwys yma.

Bydd y treial yn dechrau yn Aberhonddu o 13 Gorffennaf ac yn rhedeg tan 4 Hydref 2023.. Byddwch yn gallu hawlio 10c ar gyfer pob cynhwysydd diodydd dilys y byddwch yn ei ailgylchu yn ystod cyfnod y treial. Gallwch naill ai dderbyn yr arian parod neu ei gyfrannu tuag at Fanc Bwyd Aberhonddu ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru sef ein helusennau lleol enwebedig.

Bydd y treial yn ein helpu ni i ddeall sut mae preswylwyr yn ymgysylltu gyda'r dechnoleg newydd hon a'r dewisiadau maent yn eu ffafrio ar gyfer dychwelyd cynhwysyddion diodydd.

Cafodd Aberhonddu ei dewis ar gyfer y treial wrth iddi dicio'r holl ofynion: tref o'r boblogaeth gywir, lleoliad delfrydol, manwerthwyr lleol a oedd am gefnogi'r treial a chymuned ailgylchu weithgar sy'n defnyddio'u gwasanaeth casglu ymyl y ffordd yn rheolaidd.

Dyma'r tro cyntaf unrhyw le yn y byd y bydd tref gyfan yn defnyddio'r dechnoleg newydd hon. Bydd y canfyddiadau'n cael eu dadansoddi i benderfynu sut y gellid defnyddio hyn i helpu cynyddu faint rydym yn ei ailgylchu.

Edrychwch allan am wybodaeth fydd yn dod trwy eich drws yn fuan.

Dechreuwch hawlio tâl fel gwobr heddiw, cofrestrwch ar gyfer cyfrif Sganio Ailgylchu Gwobr

Cofrestrwch nawr - https://recyclereward.powys.gov.uk/?lang=cy

Angen help? 

Edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin, byddan nhw'n gallu eich helpu gyda'r rhan fwyaf o ymholiadau. Os oes angen cymorth pellach neu wybodaeth am y treial arnoch e-bostiwch ni  recyclereward@powys.gov.uk