Sganio | Ailgylchu | Gwobr - Cwestiynau cyffredin

Dychwelyd cynhwysyddion dros y cownter
Cyffredinol
Beth sy'n digwydd a phryd?
Byddwn ni'n lansio'r treial Sganio Ailgylchu Gwobr yn Aberhonddu ar 13 Gorffennaf 2023 a bydd yn rhedeg am 12 wythnos tan 4 Hydref 2023. Bydd y treial yn annog holl breswylwyr Aberhonddu i gofrestru a hawlio taliad arian parod o 10c trwy sganio sticer â chod unigryw ar gynhwysyddion diodydd yn y cartref trwy ddefnyddio eu casgliad ailgylchu ymyl y ffordd arferol neu fannau dychwelyd o amgylch y dref 'wrth i chi fynd ar eich hynt'. Bydd pecyn gwybodaeth yn cael ei anfon at holl breswylwyr Aberhonddu ym mis Gorffenna yn esbonio sut i gofrestru a chymryd rhan yn y treial.
Pwy all gymryd rhan yn y treial?
Caiff y treial ei redeg yn Aberhonddu a bydd yn agored i holl breswylwyr ac ymwelwyr ag Aberhonddu. Bydd pecyn gwybodaeth yn cael ei anfon at tua 4,300 o gartrefi Aberhonddu. Bydd y pecyn hwn yn gwahodd trigolion i gofrestru a chymryd rhan yn y treial. Bydd ymwelwyr ag Aberhonddu hefyd yn gallu cymryd rhan gan ddefnyddio'r pwyntiau dychwelyd Sganio Ailgylchu Gwobr a leolir o amgylch y dref.
Sut ydw i'n cofrestru?
Gallwch gofrestru ar gyfer cyfrif Sganio|Ailgylchu|Gwobr gan ddefnyddio ffôn clyfar trwy sganio sticer 10c â chod unigryw ar unrhyw gynhwysydd diod perthnasol, unrhyw sticer â chod QR yn eich pecyn gwybodaeth, y cod QR ar Fin Cymunedol neu trwy'r ddolen hon: https://recyclereward.powys.gov.uk/?lang=cy
Rydym am wneud hyn mor gyfleus ag sy'n bosibl i chi hawlio gwobr. Felly, unwaith y byddwch wedi cofrestru gallwch ddechrau ailgylchu naill ai:
'Yn y cartref' gan ddefnyddio eich ffôn clyfar a'ch casgliad ailgylchu ymyl y ffordd arferol
NEU
Yn y mannau dychwelyd 'wrth fynd ar eich hynt'. Mae'r rhain yn cynnwys:
Biniau cymunedol (mae angen ffôn clyfar) a leolir ym: Maes parcio ALDI, a Sgwâr Bethel (tu allan i Greggs).
Lleolir peiriannau awtomatig (nid oes angen ffôn clyfar) yng: Nghanolfan Hamdden Aberhonddu a Morrisons.
Mae'r mannau dychwelyd dros y cownter fel a ganlyn: (nid oes angen ffôn clyfar):
Holland a Barrett, Premier (Brecon Convenience) neu SPAR.
A allaf rannu fy manylion mewngofnodi gydag aelodau eraill fy nheulu?
Gallwch, ond dim ond un cyfrif e-bost allwch chi ei ddefnyddio. Unwaith y byddwch yn gofyn i fewngofnodi, fe fyddwn yn anfon e-bost atoch gyda dolen mewngofnodi. Gallwch drosglwyddo'r ddolen hon ymlaen at y sawl fyddai'n hoffi rhannu eich cyfrif gyda chi. Dim ond am 30 munud mae'r ddolen hon yn ddilys.
Oes angen cyfrif e-bost ar fy ffôn cyn i mi allu cofrestru?
Y tro cyntaf y byddwch yn defnyddio'r ap gwe, rhaid i chi allu cael mynediad at y cyfrif e-bost a ddefnyddir gennych chi i gofrestru ar y ddyfais rydych yn dymuno ei defnyddio ar gyfer sganio. I fewngofnodi, byddwn yn anfon dolen dros e-bost atoch y mae'n rhaid i chi ei hagor ar yr un ddyfais ag y byddwch yn ei defnyddio i sganio'r cynhwysyddion ar gyfer derbyn tâl.
Sut mae'n gweithio?
Mae codau QR unigryw (sticeri 10c) yn cael eu creu a'u gosod ar bob cynhwysydd diodydd dilys. Mae cyfranogwyr yn defnyddio ap gwe https://recyclereward.powys.gov.uk/?lang=cy i gofrestru a dechrau cofnodi eu gweithgaredd ailgylchu a hawlio tâl, naill ai trwy ailgylchu yn y cartref neu yn y mannau dychwelyd 'ar eich hynt' o gwmpas tref Aberhonddu.
Caiff trafodion eu cofnodi a thaliadau eu prosesu. Mae'r cod QR unigryw yn sicrhau mai dim ond unwaith y gellir sganio cynhwysydd i hawlio tâl.
Sut allaf gymryd rhan yn y treial?
Mae pedair ffordd y gallwch gymryd rhan yn y treial:
- Yn y cartref - gosodwch y labeli ailgylchu sydd wedi'u cynnwys yn y pecyn gwybodaeth ar eich blychau ailgylchu. Yna gallwch ddefnyddio eich ffôn clyfar i sganio un o'r labeli ailgylchu i gofrestru am gyfrif Sganio|Ailgylchu|Gwobr. Sganiwch y cod QR (sticer 10c) ar y cynhwysydd(ion) diodydd ac yna ailgylchu yn ôl eich arfer. Byddwn yn ychwanegu tâl o 10c i'ch cyfrif am bob eitem sy'n cael ei hailgylchu'n gywir.
- 'Ar eich hynt' gan ddefnyddio biniau cymunedol (bydd angen ffôn clyfar arnoch i'w defnyddio) a leolir ym maes parcio ALDI, Y Watton, Rich Way a Sgwâr Bethel (y tu allan i Greggs). I'w defnyddio sganiwch y cod QR ar y bin i agor yr ap ar eich ffôn, yna pwyswch eicon bin ar y sgrin, dilynwch y cyfarwyddiadau ar eich ffôn i gyflwyno eich cynhwysydd(ion) diod a hawlio tâl.
- 'Ar eich hynt' - gan ddefnyddio peiriannau awtomatig - a leolir yng Nghanolfan Hamdden Aberhonddu a Morrisons. Sganiwch y cod QR ar eich cynhwysydd(ion) gyda'r peiriant, a dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin. Bydd gennych opsiwn i ychwanegu'r arian i'ch cyfrif (bydd angen ffôn clyfar ar gyfer hyn), derbyn tocyn arian parod, a gellir rhoi hwn pe dymunir i elusen (nid oes angen ffôn clyfar ar gyfer yr opsiynau hyn).Gellir defnyddio tocynnau o'r peiriant awtomatig yn y ganolfan hamdden yng nghaffi'r ganolfan hamdden.Gellir defnyddio tocynnau o'r peiriant awtomatig yn Morrisons yn Holland a Barrett.
- Dros y cownter - Gallwch ddychwelyd cynhwysydd(ion) diodydd yn Holland & Barrett, Premier (Brecon Convenience) a SPAR, wrth gyflwyno'r eitem(au) i staff y siop. Byddwch yn derbyn tâl ar ôl i'r cynhwysydd gael ei wirio. Os yw'n well gennych gallwch wneud rhodd, gan ddefnyddio'r potyn elusen yn y siop, i Fanc Bwyd Aberhonddu ac Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, sef ein helusennau enwebedig.
Bydd cynhwysyddion gwydr OND yn gallu cael eu dychwelyd trwy eich gwasanaeth ailgylchu o'r cartref.
Faint o wobrau allaf i eu hawlio?
Byddwch chi'n gallu hawlio 10c ar gyfer pob cynhwysydd diod dilys y byddwch yn ei ailgylchu drwy gydol y treial sy'n rhedeg o 13 Gorffennaf tan 4 Hydref 2023. Gallwch un ai dderbyn yr arian parod neu ei gyfrannu tuag at Fanc Bwyd Aberhonddu ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru, sef ein helusennau enwebedig.
Beth yw diben y treial?
Mae llywodraethau yn y DU ac ar draws y byd yn edrych ar ffyrdd o ailgylchu rhagor, lleihau gwastraff a gwaredu â thaflu sbwriel. Cynhwysyddion diodydd yw un o'r mathau o becynnu sy'n cael eu taflu fwyaf fel sbwriel ac mae ffocws penodol ar gasglu mwy o'r cynhwysyddion hyn sydd wedi'u defnyddio i gynyddu ailgylchu. Un ffordd o wneud hyn yw trwy Gynllun Dychwelyd Ernes, neu DRS.
Mae technoleg DRS arloesol, o'r enw DRS Digidol (DDRS), wedi cael ei ddatblygu i helpu i gynyddu nifer y cynhwysyddion diodydd a gesglir, tra'n costio llai a gwneud y broses yn fwy cyfleus i'r cyhoedd. Mae DDRS Alliance yn gweithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Powys ac manwerthwyr lleol, i dreialu'r dechnoleg newydd hon. Fe fydd yn ein helpu ni i ddeall sut mae preswylwyr yn ymgysylltu gyda'r dechnoleg newydd hon a'r dewisiadau maent yn eu ffafrio ar gyfer dychwelyd cynhwysyddion diodydd. Dyma'r tro cyntaf mewn unrhyw le yn y byd y bydd tref gyfan yn defnyddio'r dechnoleg newydd hon. Bydd y canfyddiadau'n cael eu dadansoddi i benderfynu sut gellir defnyddio hyn i helpu cynyddu faint rydym yn ei ailgylchu.
Beth yw cynllun dychwelyd ernes gonfensiynol?
Mae Cynlluniau Dychwelyd Ernes (neu DRS) yn gweithredu mewn tua 25 o wledydd o amgylch y byd ar hyn o bryd, gan gynnwys Yr Almaen, Norwy a Sweden. Mae gwledydd y DU yn gwerthuso opsiynau ar gyfer cynlluniau cynlluniau dychwelyd ernes ar hyn o bryd. Mae DRS yn gweithio wrth i siopau ychwanegu ernes ar bris yr holl ddiodydd a werthir. Unwaith y caiff y diod ei yfed, gellir derbyn yr ernes trwy ddychwelyd y cynhwysydd gwag i'r siop - naill ai'n awtomatig trwy beiriant mawr, neu mewn rhai siopau, trwy ei ddychwelyd dros y cownter. Mae DRA yn golygu fod nifer o wledydd yn casglu dros 90% o'r holl gynhwysyddion perthnasol (o'i gymharu â thua 60-70% heb gynllun DRS ar waith).
Ym mha ffordd ydy DRS Digidol yn wahanol?
Mae DRS Digidol neu (DDRS) yn dechnoleg newydd, ddyfeisgar sy'n dibynnu ar bob cynhwysydd diodydd yn cael cod QR unigryw. Gellir sganio'r cod hwn wedi hynny i hawlio taliad arian parod o 10c. Trwy wneud hyn, gellir lleoli mannau dychwelyd deunyddiau ailgylchu lle bynnag y bydd y mwyaf o ddiodydd yn cael eu hyfed neu lle mae mwyafrif yr achosion o daflu sbwriel yn digwydd.
Mae'r dechnoleg hon hefyd yn galluogi preswylwyr i ddychwelyd eu cynhwysyddion diodydd yn y cartref, trwy eu casgliadau ailgylchu ymyl y ffordd arferol, yn ogystal a defnyddio'r mannau dychwelyd 'ar eu hynt' sydd wedi'u lleoli o amgylch tref Aberhonddu. Mae felly'n argoeli i fod yn fwy effeithiol o ran casglu cynhwysyddion ac yn fwy cyfleus i'r cyhoedd am bris llawer llai - nid yn unig yn ariannol ond hefyd o ran allyriadau carbon.
Pam mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r treial?
Mae Llywodraeth Cymru am ddarganfod a fydd y treial yn annog pobl i ailgylchu rhagor. Ar hyn o bryd mae cyfradd cyffredinol ailgylchu Cymru tua 65%, sy'n golygu mai Cymru fel cenedl sydd â'r drydedd gyfradd ailgylchu uchaf yn y byd. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod yr uchelgais i Gymru i fod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050 (lle mae 100% o'r holl ddeunyddiau yn cael eu hailgylchu), gallai cyflwyno cynllun ernes ddigidol o'r cartref fod yn arf pwysig i wireddu'r uchelgais hwn.
Bydd y treial yn helpu Llywodraeth Cymru i ddeall sut y bydd preswylwyr yn defnyddio'r dechnoleg newydd hon a'u hoff ddewis ar gyfer dychwelyd cynhwysyddion diodydd. Dyma fydd y tro cyntaf i unrhyw le yn y byd y bydd tref gyfan yn defnyddio'r dechnoleg newydd hon a bydd y canlyniadau'n cael eu dadansoddi i helpu i benderfynu sut y gellir defnyddio hyn i helpu faint rydym yn ei ailgylchu
Pa mor hir fydd y treial yn para?
Bydd y treial yn rhedeg am 12 wythnos o 13 Gorffennaf tan 4 Hydref 2023.
Beth yw buddion y treial i'r cyhoedd?
Bydd pawb sy'n cofrestru ar gyfer y Sganio| Ailgylchu|Gwobr yn gallu hawlio tâl ariannol o 10c am bob cynhwysydd diod dilys y maent yn ei ddychwelyd yn gywir neu gallant ddewis wneud rhodd i Fanc Bwyd Aberhonddu ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru, sef ein helusennau enwebedig.
Nod y treial hwn yw ei wneud mor hawdd a chyfleus â phosibl i bawb yn y Aberhonddu gymryd rhan drwy sganio ac ailgylchu cynhwysyddion gartref gan ddefnyddio eu gwasanaeth casglu ymyl y ffordd neu drwy ddefnyddio un o'r pwyntiau dychwelyd 'wrth fynd ar eich hynt' sydd wedi'u lleoli o amgylch y dref.
Pam ydy'r treial hwn yn cael ei gynnal yn Aberhonddu?
Roedd Aberhonddu'n cwrdd â'r holl ofynion ar gyfer y treial hwn: tref o'r boblogaeth gywir, lleoliad delfrydol, manwerthwyr lleol a oedd am gefnogi'r treial a chymuned ailgylchu weithgar sy'n defnyddio'u gwasanaeth casglu ymyl y ffordd yn rheolaidd.
Oes raid i mi gymryd rhan yn y treial?
Na - mae cymryd rhan yn wirfoddol ond ni fyddwch yn gallu hawlio tâl na chyfrannu at y treial pwysig hwn.
Rwy'n byw ychydig y tu allan i Aberhonddu, ond yn gwneud fy holl siopa yn y dref. A allaf gymryd rhan?
Gallwch. Yr unig ofynion yw eich bod yn prynu cynhwysydd diodydd dilys sy'n cynnwys cod QR (sticer 10c) ac yn ei ddychwelyd yn gywir trwy un o'r pwyntiau ailgylchu 'wrth fynd ar eich hynt' sydd wedi'u lleoli yn y dref.
Alla i ailgylchu unrhyw gynhwysydd diod?
Na dim pob un. Dim ond cynhwysyddion diod sydd â chod QR (sticer 10c) y gellir eu defnyddio i hawlio tâl 10c.
Wedi'u cynnwys yn y treial
- Poteli plastig PET *
Poteli yw'r rhain gyda'r symbol canlynol [include image of the symbol] e.e., diodydd ysgafn, poteli dŵr, suddion ffrwythau a llysiau (cynhyrchion hir oes), llaeth a dewisiadau arall i laeth (cynhyrchion hir oes), diodydd brecwast (cynhyrchion hir oes), suddion un defnydd, smwddis, diodydd llaeth (wedi'u hoeri), diodydd egni a fitaminau, cymysgwyr, megis tonig a dŵr soda
- Diodydd ysgafn mewn caniau alwminiwm a dur
- Poteli gwydr yn cynnwys diodydd di-alcohol * (gellir ailgylchu'r rhain gan ddefnyddio eich gwasanaeth casglu ymyl y ffordd)
- Cartonau o'r math Tetra Pak
Heb eu cynnwys yn y treial
- Pecynnau diodydd niferus a phecynnau arbennig
- Diodydd alcoholig
- Cynnyrch babanod
- Cynnyrch llaeth ffres a suddion wedi'u hoeri (ac eithrio cynnyrch un defnydd)
- Cordialau / diodydd i'w gwanhau gyda dŵr ar gyfer eu hyfed
- Eitemau nad ydynt mewn pecynnau plastig PET, caniau, gwydr neu gartonau e.e. HDPE, PP
* Wedi'u pacio mewn cynhwysyddion 50ml i 2L
Ymhle y gallaf ddychwelyd fy nghynhwysydd i gael tâl o 10c am ailgylchu?
Mae pedair ffordd y gallwch gymryd rhan yn y treial:
- Yn y cartref - gosodwch y labeli ailgylchu sydd wedi'u cynnwys yn y pecyn gwybodaeth ar eich blychau ailgylchu. Yna gallwch ddefnyddio eich ffôn clyfar i sganio un o'r labeli ailgylchu i gofrestru am gyfrif Sganio|Ailgylchu|Gwobr. Sganiwch y cod QR (sticer 10c) ar y cynhwysydd(ion) diodydd ac yna ailgylchu yn ôl eich arfer. Byddwn yn ychwanegu tâl o 10c i'ch cyfrif am bob eitem sy'n cael ei hailgylchu'n gywir.
- 'Ar eich hynt' gan ddefnyddio biniau cymunedol (bydd angen ffôn clyfar arnoch i'w defnyddio) a leolir ym maes parcio ALDI, Y Watton, Rich Way a Sgwâr Bethel (y tu allan i Greggs). I'w defnyddio sganiwch y cod QR ar y bin i agor yr ap ar eich ffôn, yna pwyswch eicon bin ar y sgrin, dilynwch y cyfarwyddiadau ar eich ffôn i gyflwyno eich cynhwysydd(ion) diod a hawlio tâl.
- 'Ar eich hynt' - gan ddefnyddio peiriannau awtomatig - a leolir yng Nghanolfan Hamdden Aberhonddu a Morrisons. Sganiwch y cod QR ar eich cynhwysydd(ion) gyda'r peiriant, a dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin. Bydd gennych opsiwn i ychwanegu'r arian i'ch cyfrif (bydd angen ffôn clyfar ar gyfer hyn), derbyn tocyn arian parod, a gellir rhoi hwn pe dymunir i elusen (nid oes angen ffôn clyfar ar gyfer yr opsiynau hyn).Gellir defnyddio tocynnau o'r peiriant awtomatig yn y ganolfan hamdden yng nghaffi'r ganolfan hamdden.Gellir defnyddio tocynnau o'r peiriant awtomatig yn Morrisons yn Holland a Barrett.
- Dros y cownter - Gallwch ddychwelyd cynhwysydd(ion) diodydd yn Holland & Barrett, Premier (Brecon Convenience) a SPAR, wrth gyflwyno'r eitem(au) i staff y siop. Byddwch yn derbyn tâl ar ôl i'r cynhwysydd gael ei wirio. Os yw'n well gennych gallwch wneud rhodd, gan ddefnyddio'r potyn elusen yn y siop, i Fanc Bwyd Aberhonddu ac Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, sef ein helusennau enwebedig.
Bydd cynhwysyddion gwydr OND yn gallu cael eu dychwelyd trwy eich gwasanaeth ailgylchu o'r cartref.
Nid oes gennyf ffôn clyfar. Ydy hyn yn golygu na alla i gymryd rhan?
Gallwch barhau i gymryd rhan hyd yn oed os nad oes gennych ffôn clyfar, er na fyddwch yn gallu hawlio tâl am gynwysyddion gwydr sy'n cael eu dychwelyd (gan mai dim ond trwy flychau ailgylchu o'r cartref y gellir eu dychwelyd).
Nid oes angen ffôn clyfar i ddychwelyd eich cynwysyddion trwy ddefnyddio'r peiriannau awtomatig yng Nghanolfan Hamdden Aberhonddu a Morrisons, neu 'dros y cownter' yn Holland & Barrett, Premier (Brecon Convenience) a SPAR, wrth gyflwyno'r eitem(au) i staff y siop. Byddwch yn derbyn tâl ar ôl i'r cynhwysydd gael ei wirio. Os yw'n well gennych gallwch wneud rhodd, gan ddefnyddio'r potyn elusen yn y siop, i Fanc Bwyd Aberhonddu ac Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, sef ein helusennau enwebedig.
Gwobrau a thaliadau
Sut a phryd y byddaf yn cael fy nhaliadau?
Os ydych chi'n defnyddio eich ffôn clyfar i sganio'r cynhwysyddion, bydd credyd o 10c yn cael ei roi ar eich cyfrif bob tro y byddwch yn dychwelyd cynhwysydd yn gywir. Pryd bynnag y bydd balans eich cyfrif yn cyrraedd £5, bydd cwpon gwobrwyo yn cael ei gynhyrchu. Byddwch yn gallu ei hawlio pryd bynnag y byddwch yn dymuno. Pan fyddwch yn barod i hawlio cwpon, byddwch yn cael eich trosglwyddo i wefan ddiogel lle gallwch ofyn am gael talu eich gwobr yn uniongyrchol i'ch cyfrif banc. Ar ddiwedd y treial, byddwch yn gallu hawlio unrhyw gwponau gwobrwyo sydd ar ôl yn eich cyfrif.
Os byddwch yn dychwelyd eich cynhwysyddion 'dros y cownter' yn Holland & Barrett, Premier (Brecon Convenience) a SPAR, byddwch chi'n derbyn tâl arian parod. Os yw'n well gennych gallwch roi hwn i Fanc Bwyd Aberhonddu ac Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, sef ein helusennau lleol enwebedig gan ddefnyddio'r potyn elusen yn y siop.
Os byddwch chi'n defnyddio'r peiriannau awtomatig yng Nghanolfan Hamdden Aberhonddu neu Morrisons heb ddefnyddio eich ffôn, gallwch gael taleb arian parod a phe dymunir, gellir ei roi i elusen.
Gellir defnyddio talebau o'r peiriant awtomatig yn y ganolfan hamdden yng nghaffi'r canolfan hamdden.
Gellir defnyddio talebau o'r peiriant awtomatig yn Morrisons yn Holland a Barrett.
I ba elusen alla i roi fy nhaliadau?
Yr elusennau lleol enwebedig yw Banc Bwyd Aberhonddu ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru. Caiff yr holl roddion eu rhannu'n gyfartal rhwng y ddwy elusen.
Rwyf wedi cael cais i roi fy manylion banc - oes raid i mi eu darparu?
Bob tro y byddwch am hawlio cwpon gwobrwyo o £5, gofynnir i chi roi rhif eich cyfrif banc a chod didoli er mwyn i ni allu trosglwyddo'ch tâl yn uniongyrchol i'ch cyfrif banc. Gwneir hyn ar wefan ddiogel ac ni fydd eich data'n cael ei gadw. Felly, bydd angen i chi wneud hyn ar gyfer pob cwpon gwobrwyo rydych chi'n ei hawlio.
Rwy'n pryderu am roi manylion fy nghyfrif banc - pa ddiogelwch sydd gennych ar waith i atal manylion fy nghyfrif rhag cael eu dwyn?
Bydd y broses dalu yn cael ei rheoli drwy ddarparwr taliadau arbenigol sydd â thrwydded i reoli gwybodaeth bancio yn ddiogel. Ni fyddant yn cadw unrhyw wybodaeth banc ar ôl i'ch cwpon gael ei hawlio a'r arian ei drosglwyddo i'ch cyfrif ac eithrio'r wybodaeth y mae'n ofynnol iddynt ei chadw yn ôl y gyfraith. Ni fydd gan unrhyw barti arall sy'n rhan o'r treial hwn fynediad at fanylion eich cyfrif banc. Cofiwch, ni fydd dim ond rhoi eich rhif cyfrif banc a chod didoli yn galluogi unrhyw un i gael mynediad i'ch cyfrif banc - PEIDIWCH BYTH â rhannu eich cyfrineiriau neu PIN.
Rwyf wedi hawlio cwpon gwobrwyo ond nid yw'r arian wedi cyrraedd fy nghyfrif banc. Beth ddylwn i wneud?
Anfonwch e-bost atom recyclereward@powys.gov.uk gyda manylion eich cwpon.
Prynais gynnyrch a ddylai fod â sticer arno ond pan gyrhaeddais adref, sylwais nad oedd sticer arno. Sut allaf hawlio fy nhâl?
Efallai y bydd achlysuron pan fydd cynhyrchion ar werth ond heb cod QR (sticer 10c) arnynt eto. Yn anffodus, dim ond cynnyrch gyda sticeri arnynt y gellir derbyn tâl amdanynt.
Sganio
Sut ydw i'n sganio'r label ar y cynhwysydd diod gyda fy ffôn?
Agorwch y camera ar eich ffon clyfar a gwnewch yn siŵr bod y cod QR ar eich cynhwysydd diod (sticer 10c) a chod bar y cynnyrch yng ngolwg eich camera. Weithiau bydd camera eich ffôn yn cymryd ychydig o eiliadau i ffocysu. Daliwch eich ffôn clyfar tua 3 modfedd / 7.5 cm i ffwrdd o'r cynhwysydd a bydd yn adnabod y cod. Yna, dilynwch y cyfarwyddiadau ar eich ffôn clyfar. Bydd angen i'ch ffôn sganio'r cod ar y sticer a chod bar y cynnyrch felly gwnewch yn siŵr bod y ddau i'w gweld gan gamera'r ffôn.
Nid oes cod bar cynnyrch ar y cynhwysydd
Os nag oes cod bar ar y cynhwysydd, ewch ag e i un o'r siopau sy'n cynnig gwasanaeth dros y cownter sef : Holland & Barratt, Premier (Brecon Convenience) neu SPAR.
Sganiais rai cynhyrchion, ond nid yw fy nghyfrif wedi cael ei gredydu. Beth ddylwn i wneud?
Ebostiwch ni ar recyclereward@powys.gov.uk gyda manylion y cynhyrchion a sganiwyd gennych (os ydyn nhw gennych o hyd) a'r dyddiad a'r amser y gwnaethoch chi eu sganio nhw.
Prynais gynnyrch a phan wnes i sganio'r cod roedd yn dweud ei fod wedi'i ddefnyddio'n barod. Beth ddylwn i wneud?
Ebostiwch ni ar recyclereward@powys.gov.uk gyda manylion y cynnyrch a sganiwyd â manylion am ble a phryd y gwnaethoch ei brynu.
Beth os na allaf gael y cod QR (sticer 10c) i sganio?
Bydd yr ap yn gofyn i chi roi cynnig arni fwy nag un waith, ceisiwch sganio'r cod QR (sticer 10c) eto. Os na fyddwch yn gallu sganio'r cod o hyd anfonwch e-bost atom yn recyclereward@powys.gov.uk gyda manylion y cynnyrch ynghyd â manylion am ble a phryd y gwnaethoch ei brynu.
Pam ei fod yn gofyn i mi roi caniatâd am fynediad at ddefnyddio camera fy ffôn?
Rhaid i chi ganiatáu mynediad at gamera'r ffôn er mwyn sganio'r cod QR (sticer 10c) ar y cynhwysyddion diod wrth ailgylchu yn y cartref neu drwy'r biniau cymunedol.
Beth petawn i'n gwrthod y cais i ddefnyddio fy nghamera ac yna'n newid fy meddwl? Sut ydw i wedyn yn caniatáu mynediad i'r camera?
Rhaid i chi newid caniatâd camera eich porwr i ddefnyddio'r ap a chael tâl:
- Os ydych chi'n defnyddio Google Chrome, gallwch weld eich gosodiadau trwy'r eicon clo clap ar frig eich sgrin ar yr ochr chwith, wrth ymyl URL y dudalen ry'ch chi'n pori arni ar hyn o bryd.
- Os ydych chi'n defnyddio Firefox gallwch weld eich gosodiadau trwy deipio "about:permissions" i mewn i'r bar lleoliad fel pe bai'n wefan a tharo enter.
- Os ydych chi'n defnyddio Safari, gallwch gael mynediad at eich gosodiadau drwy glicio Safari ac yna Preferences. Bydd blwch pop-up yn ymddangos a byddwch yn gallu diweddaru eich gosodiadau.
Os ydych chi'n dal i gael problemau gyda hyn, e-bostiwch ni ar recyclereward@powys.gov.uk
Pam ei fod yn gofyn i mi roi caniatâd i ddefnyddio fy lleoliad?
Mae rhai nodweddion yn gofyn i chi ganiatáu i'ch lleoliad gael ei ddefnyddio, fel y nodwedd map sy'n eich galluogi i weld ble mae eich mannau dychwelyd agosaf. Os byddwch yn penderfynu peidio â rhannu eich lleoliad, bydd yr ap yn dal i weithio, ond ni fydd y map sy'n dangos y pwyntiau dychwelyd agosaf yn gywir.
Beth petawn i'n gwrthod y cais i ddefnyddio fy lleoliad ac yna'n newid fy meddwl? Sut ydw i wedyn yn caniatáu i ddefnyddio fy lleoliad?
Bydd yn rhaid i chi newid caniatâd lleoliad eich porwr i ddefnyddio'r mapiau yn yr ap:
- Os ydych chi'n defnyddio Google Chrome, gallwch ddod o hyd i'ch gosodiadau trwy'r eicon clo clap ar frig eich sgrin ar yr ochr chwith, wrth ymyl URL y dudalen ry'ch chi'n pori ar hyn o bryd.
- Os ydych chi'n defnyddio Firefox gallwch ddod o hyd i'ch gosodiadau trwy deipio "about:permissions" yn y bar lleoliad fel pe bai'n wefan a tharwch enter.
- Os ydych chi'n defnyddio Safari, gallwch ddod o hyd o osodiadau eich porwr trwy glicio Safari ac yna Preferences. Byddwch yn gweld blwch pop-up a byddwch yn gallu diweddaru eich gosodiadau.
Os byddwch yn dal i gael problemau gyda hyn, anfonwch e-bost atom yn recyclereward@powys.gov.uk
Manwerthwyr
Pa fanwerthwyr sy'n cymryd rhan?
- ALDI
- B&M
- Bargain Booze
- Boots
- Brecon Kebab & Burger House
- Canolfan Hamdden Aberhonddu
- Certas Energy (Gulf with Spar)
- Co-op
- Costcutter (Ysgol Cad-Filwyr Traed Aberhonddu)
- Costa
- Country Kitchen
- Greggs
- Holland & Barrett
- Morrisons
- Blaengwrt Morrisons
- New Dragon
- Papa Zones
- Premier (Brecon Convenience)
- Savers
- Silver Fish Bar
- SPAR
- St Mary's Bakery
- Sunny Chinese Take-Away
- Tad Cod
- The Original Factory Shop
- West End Fish Bar
- Y Gaer
- Lle Bwyta'r 160fed Frigâd
Pam nad yw rhai manwerthwyr ar y rhestr?
Mae manwerthwyr sy'n cynnig diodydd yn bennaf i ddefnyddwyr ar eu safleoedd wedi'u heithrio o'r treial (fel caffis a bwytai). Hefyd, mae rhai manwerthwyr wedi penderfynu peidio cymryd rhan yn y treial. Ni allwch hawlio tâl am ailgylchu'r cynhwysyddion diodydd a brynwyd gan fanwerthwyr nad ydynt yn cymryd rhan.
Biniau cymunedol
Pa eitemau allaf i eu rhoi yn y biniau cymunedol?
Gellir dychwelyd pob cynhwysydd dilys trwy'r biniau cymunedol ac eithrio poteli gwydr. Rhaid i bob cynhwysydd fod yn wag (dim hylif).
Ble mae'r biniau cymunedol wedi eu lleoli?
Mae dau 'fin cymunedol' ar gael (bydd angen ffôn clyfar i'w defnyddio). Maen nhw wedi eu lleoli ym maes parcio CLDI, Y Watton, Rich Way a Sgwâr Bethel (y tu allan i Greggs).
Sut ydw i'n defnyddio'r biniau cymunedol?
I'w defnyddio, sganiwch y cod QR sydd ar y bin ac agor yr ap ar eich ffôn, yna pwyswch eicon y bin ar y sgrin, dilyn y cyfarwyddiadau ar eich ffôn a chyflwyno eich cynhwysydd(ion) diod a hawlio eich tâl.
DIN OND ond gyda'r gwasanaeth ailgylchu yn y cartref y gallwch ddychwelyd cynhwysyddion gwydr.
Peiriannau awtomatig
Ydw i'n gallu defnyddio talebau argraffedig o'r peiriant awtomatig mewn unrhyw siop yn Aberhonddu?
Na.
Gellir defnyddio talebau o'r peiriant awtomatig yn y ganolfan hamdden yng nghaffi'r canolfan hamdden.
Gellir defnyddio talebau o'r peiriant awtomatig yn Morrisons yn Holland a Barrett.
Pa eitemau y gallaf eu rhoi yn y peiriant awtomatig?
Gellir dychwelyd pob cynhwysydd dilys trwy'r peiriannau awtomatig ac eithrio poteli gwydr. Rhaid i bob cynhwysydd fod yn wag (dim hylif).
Sut ydw i'n defnyddio'r peiriant awtomatig?
Sganiwch y cod QR (sticer 10c) ar gynhwysydd y ddiod gan ddefnyddio'r sganiwr ar du blaen y peiriant. Ar ôl derbyn cadarnhad o'r broses sganio, bydd y drws yn agor, a gallwch roi'r cynhwysydd yn y peiriant. Bydd angen ail-adrodd y broses hon nes ichi ddychwelyd eich holl gynwysyddion. Bydd gennych opsiwn i ychwanegu arian i'ch cyfrif (bydd angen ffôn clyfar i wneud hyn), derbyn taleb arian parod, a phe dymunir, gallwch roi hwn i elusen (nid oes angen ffôn clyfar ar gyfer yr opsiynau hyn).
Gellir defnyddio talebau o'r peiriant awtomatig yn y ganolfan hamdden yng nghaffi'r canolfan hamdden.
Gellir defnyddio talebau o'r peiriant awtomatig yn Morrisons yn Holland a Barrett.
Bydd y cyfarwyddiadau i'w dilyn ar y peiriant.
Ymhle mae'r peiriannau awtomatig wedi'u lleoli?
Lleolir peiriannau awtomatig yn y lleoliadau hyn:
- Canolfan Hamdden Aberhonddu
- Morrisons
Dychwelyd cynhwysyddion dros y cownter
Pa fasnachwyr sy'n derbyn cynhwysyddion dros y cownter?
Mae tair siop yn Aberhonddu'n gweithredu gwasanaeth derbyn cynhwysyddion dros y cownter sef:
- Holland & Barrett, Sgwâr Bethel
- Premier (Brecon Convenience), Stryd Fawr
- SPAR, Bryn De Winton
Pa eitemau alla i eu dychwelyd dros y cownter?
Gellir dychwelyd pob cynhwysydd dilys dros y cownter ac eithrio poteli gwydr. Rhaid i bob cynhwysydd fod yn wag (dim hylif).
Sut alla i ddychwelyd cynhwysyddion diodydd dros y cownter?
Gallwch ddychwelyd cynhwysyddion diodydd i Spar, Premier (Brecon Convenience), a Holland & Barrett drwy drosglwyddo'r eitem(au) i staff y siop. Bydd gwobr ariannol yn cael ei roi unwaith y bydd y cynhwysydd wedi'i wirio. Os yw'n well gennych, gallwch chi roi rhodd i Fanc Bwyd Aberhonddu ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru, sef ein helusennau lleol enwebedig drwy ddefnyddio'r pot elusen yn y siop.
Ymyl y Ffordd
Sut ydw i fod i sganio fy nghynwysyddion diod gartref?
Pan fyddwch yn barod i ailgylchu'ch cynhwysyddion gwag, sganiwch un o'r labeli ailgylchu a ddarperir yn eich pecyn gwybodaeth (un ar bob un o'ch dau fin a thraean i'w defnyddio yn ôl eich dymuniad) gan ddefnyddio'ch camera ffôn clyfar. Yna, dilynwch y cyfarwyddiadau ar eich ffôn. Os nad ydych wedi derbyn label ailgylchu anfonwch e-bost atom yn recyclereward@powys.gov.uk
Nid wyf yn siŵr beth i'w wneud â'r labeli rwyf wedi eu derbyn yn fy mhecyn gwybodaeth?
Rydym wedi darparu tri label ailgylchu hunanlynol i chi:
- Label i lynu ar eich blwch ailgylchu (coch) ar gyfer plastigion, caniau a chartonau
- Label i lynu ar eich blwch ailgylchu gwydr (acwa).
- 'Label dan do' (du) y gallwch ei ddefnyddio, rhag ofn y byddai'n well gennych sganio'ch eitemau yn eich cartref cyn eu rhoi yn eich blychau ailgylchu a allai fod y tu allan.
Mae'r labeli ar eich blychau ailgylchu yn helpu'r criwiau i wirio pwy sy'n cymryd rhan yn y treial ac yn monitro'r math o gynhwysyddion y maen nhw'n eu hailgylchu. Nid yw'r labeli'n cynnwys unrhyw fanylion personol ac ni fydd modd adnabod preswylwyr na'u cyfeiriadau.
Dydw i ddim wedi derbyn pecyn gwybodaeth. Beth ddylwn i ei wneud?
Anfonwyd pecynnau gwybodaeth i tua 4,300 o aelwydydd yn Aberhonddu, yn gwahodd trigolion i gofrestru a chymryd rhan yn y treial. Os nad ydych wedi derbyn pecyn gwybodaeth, anfonwch e-bost atom yn recyclereward@powys.gov.uk
Cost
Pwy sy'n ariannu'r treial?
Mae'r treial yn cael ei ariannu gan amrywiaeth eang o sefydliadau sydd â diddordeb mewn dysgu am y canlyniadau. Maen nhw'n cynnwys Llywodraeth Cymru, manwerthwyr yn Aberhonddu, cwmnïau pecynnu a rhai brandiau diodydd.
Pan fyddaf yn prynu diod gyda chod QR (sticer 10c) a fyddaf yn talu blaen-dal o 10c?
Na, ni fydd y cynhwysyddion diodydd sydd â chôd QR (sticer 10c) yn costio mwy nag arfer. Bydd y tâl o 10c yn cael ei roi gan noddwyr y treial.
Ailbrosesu
Beth sy'n digwydd i'r deunyddiau sy'n cael eu casglu fel rhan o'r treial.
Bydd yr holl gynwysyddion sy'n cael eu hailgylchu fel rhan o'r treial, gan gynnwys y cartonau, yn cael eu hailgylchu fel arfer. Bydd y deunydd yn cael ei gasglu gan Gyngor Sir Powys fel rhan o'r casgliadau ailgylchu ymyl y ffordd wythnosol ac yn cael eu hailbrosesu fel arfer. Lle bo'n bosib, bydd yr holl ddeunyddiau ymyl y ffordd ym Mhowys yn cael eu hanfon i'w prosesu yng Nghymru, ond mae peth deunydd yn cael ei brosesu yn Lloegr. Nid oes unrhyw ddeunydd yn teithio ymhellach na hyn i gael ei ailgylchu na'i waredu'n llwyr.
- Ar hyn o bryd mae gwydr yn cael ei anfon i ailbrosesydd yn Wakefield, Gorllewin Swydd Efrog.
- Mae plastigau, caniau a chartonau sydd wedi'u cymysgu yn cael eu cludo i orsaf drosglwyddo yn Llanwern, Aberhonddu, lle defnyddir dull gwahanu magnetig a 'cherrynt eddy' i ynysu'r caniau dur ac alwminiwm, yn eu trefn, o'r plastigau a'r cartonau.
Fel rhan o'r treial, bydd samplu ystadegol dienw ar hap yn cael ei wneud i benderfynu pa fath o gynhwysyddion sydd wedi'u cynnwys yn y blychau ailgylchu ymyl y ffordd. Bydd y data hwn yn helpu i ddysgu am dueddiadau ailgylchu ac yn helpu i fesur llwyddiant y treial.
Data
Pa ddata personol sy'n cael ei gymryd a'i gadw?
I gofrestru, bydd eich cyfeiriad e-bost a chod post yn cael eu casglu. Defnyddir y cyfeiriad e-bost i gyfathrebu â chi am y treial yn unig. Caiff y cod post ei ddefnyddio i ddadansoddi'r treial ac nid yw'n gysylltiedig ag unigolion sy'n cymryd rhan yn y treial.
Unwaith y bydd y treial wedi'i gwblhau a'r dadansoddi wedi dod i ben, bydd yr holl ddata e-bost yn cael ei ddinistrio. Yn ystod y broses o gyfnewid cwponau ar gyfer arian parod, byddwch yn cael eich trosglwyddo i wefan ddiogel a gofynnir i chi am fanylion eich cyfrif banc (rhif cyfrif a chod didoli). Mae'r data hwn yn cael ei ddefnyddio i drosglwyddo arian i'ch cyfrif banc yn unig. Byddwn yn cadw eich data trafodion banc am y cyfnod sy'n angenrheidiol i gyflawni a chwblhau'r trafodion, oni bai bod angen ei gadw'n hirach neu'n angenrheidiol yn gyfreithiol neu drwy gydymffurfiaeth â rhwymedigaeth gyfreithiol arall.
Ni fydd unrhyw ddata personol yn cael ei drosglwyddo i unrhyw barti arall. Caiff yr holl fanylion eu hesbonio yn ein Polisi Preifatrwydd ar yr Ap Gwe ar eich ffôn clyfar.