Ffordd i gau er mwyn gosod wyneb newydd arni

20 Hydref 2017 |
Mae rhybudd wedi'i gyhoeddi i fodurwyr y bydd cefnffordd yn ne Powys yn cau yr wythnos nesaf am bum niwrnod er mwyn gosod wyneb newydd arni.
Mae Cyngor Sir Powys wedi cyhoeddi'r rhybudd cyn cau'r A479 o Dalgarth i'w chyffordd â'r A40, i'r de o Dretwr wrth i gontractwyr osod wyneb newydd ar y ffordd ar ran Llywodraeth Cymru.
Bydd y ffordd yn cael ei chau ddydd Llun 23 Hydref hyd 8am ddydd Gwener 27 Hydref. Bydd yn agor bob min nos am 6pm cyn ailagor yn llawn i bob cerbyd am 6pm ddydd Gwener, 27 Hydref.
Yn ystod y cyfnod y bydd y ffordd ar gau, bydd arwyddion yn dangos y gwyriad swyddogol er mwyn i yrwyr wybod bod y ffordd ar gau. Bydd y gwyriad yn dilyn A479 i Fronllys, A438 i Bont-y-bat, A470 i Aberhonddu, a A40 i Nant-y-ffin i ailymuno â'r A479 ac i'r gwrthwyneb ar gyfer y traffig sy'n teithio i'r cyfeiriad arall.
Am fwy o wybodaeth ewch i www.traffic-wales.com