Digwyddiadau Cwrdd â'r Prynwr

16 Hydref 2023

Nod y digwyddiadau yw dynodi ac arddangos pa waith a fydd ar gael ar brosiectau ledled y sir gan roi'r cyfle i gontractwyr gwrdd â'r bobl gywir a'r posibilrwydd o ennill gwaith o ganlyniad i hynny. Yn ychwanegol, bydd sefydliadau a all helpu contractwyr baratoi am dendro, yn bresennol i drafod sut i gyflawni gofynion tendro.
Dyma'r digwyddiadau:
- Dydd Mawrth 24 Hydref, 10am - 12:30pm a 1:30pm - 4pm - Theatr Hafren, Ffordd Llanidloes, Y Drenewydd, Powys, SY16 4HU
- Dydd Mercher 25 Hydref, 10am - 12:30pm a 1:30pm - 4pm - The Barn at Brynich, Brynich, Aberhonddu, Powys, LD3 7SH
Dywedodd yr Aelod Cabinet ar gyfer Cyllid a Thrawsnewid Corfforaethol, y Cynghorydd David Thomas: "Mae'r digwyddiadau hyn yn gyfle perffaith i fusnesau mawr a bach, ddarganfod beth sydd ar gael oddi fewn i'r Cyngor a chwrdd â'r bobl sy'n gyfrifol am y gwasanaethau.
"Os oes diddordeb gennych mewn tendro am waith gyda Chyngor Sir Powys, rwy'n argymell yn fawr eich bod chi'n bresennol yn y digwyddiadau hyn. Bydd ein tîm wrth law i'ch cefnogi chi ag unrhyw ymholiadau a allai fod gennych."
Bydd nifer o adrannau o Gyngor Sir Powys yn bresennol gan gynnwys Gwasanaethau Priffyrdd, Tiroedd a Stryd, Gwasanaethau Dylunio eiddo, Gwasanaethau Dylunio Peirianneg, Datblygu Tai, Eiddo Corfforaethol a Gwasanaethau Masnachol, yn ogystal â sefydliadau cefnogi gan gynnwys Busnes Cymru a Constructionline.
I gofrestru ar gyfer y naill ddigwyddiad neu'r llall ewch i: https://wales.business-events.org.uk/cy/digwyddiadau/cyngor-sir-powys-adeiladu-a-phriffyrdd-cwrdd-ar-prynwr-2023/
Am ragor o wybodaeth, neu am unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'r Tîm Gwasanaethau Masnachol ar commercialservices@powys.gov.uk