Toglo gwelededd dewislen symudol

Grant Twf Busnes

Rhagymadrodd

Bydd y grant yn cefnogi busnesau lleol a Mewnfuddsoddwyr i dyfu, ffynnu a bod yn gynaliadwy. Bydd hyn yn arwain at greu neu ddiogelu swyddi ledled y Sir, gan wella'r economi leol. Er y rhoddir blaenoriaeth i greu swyddi newydd, cydnabyddir bod diogelu swyddi o dan yr hinsawdd economaidd bresennol hefyd yn hynod o bwysig a chaiff ei ystyried yn unol â hynny fesul achos.

Bydd y grant ar agor ar gyfer ceisiadau o Ddydd Llun, 6 Tachwedd, 2023 tan ddydd Gwener, 15 Rhagfyr 2023 a dydd Llun, 1 Ebrill 2024 tan ddydd Gwener, 10 Mai 2024.

Bydd y Gronfa yn gynllun grant busnes, a fydd yn cynnwys cymorth tuag at brosiectau gwariant cyfalaf a gwariant refeniw arbenigol (heb gynnwys costau cynnal parhaus), lle mae swyddi newydd yn cael eu creu a/neu eu diogelu oherwydd y cymorth ariannol.

Mae manylion y canllawiau ymgeisio ar ffurf drafft a gallant newid