Dweud eich dweud ar gyfleoedd dydd

24 Hydref 2023

Ar hyn o bryd mae cyfleoedd dydd amrywiol ar gael yn y sir. Yn eu plith mae:
- Canolfannau dydd ar gyfer pobl hŷn ac oedolion gydag anableddau dysgu.
- Sefydliadau annibynnol sy'n darparu gweithgareddau ar gyfer oedolion gydag anghenion gofal a chymorth penodol, megis caffis Dementia, grwpiau chwaraeon Integredig, a sesiynau lles.
- Gweithgareddau sydd ar agor i bawb lle gall pobl fynd gyda neu heb gymorth.
Dywed y Cyng. Sian Cox, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Ofalgar: "Gwyddom fod ein llesiant yn dibynnu ar ystod o bethau, sy'n amrywio ychydig o unigolyn i unigolyn, ond yn ei hanfod sy'n golygu teimlo fod bywyd yn werth chweil, teimlo'n werthfawr, yn rhan o rywbeth a gyda rheolaeth dros ein bywydau. Dylai'r cyfleoedd dydd gyfrannu at yr agweddau hyn ar lesiant.
"Gwyddom o sgyrsiau a gafwyd gyda llawer iawn o bobl ledled Powys y gall ein cyfleoedd dydd wneud cyfraniad mwy arwyddocaol i sicrhau fod bywyd yn werth chweil. Bydd y prosiect ymgysylltu hwn yn ystyried, gyda chi, sut y gellir gwneud hyn.
"Rwyf yn annog unrhyw un sy'n defnyddio ein cyfleoedd dydd, neu sydd wedi eu defnyddio yn y gorffennol, a'u teuluoedd, gofalwyr a rhwydweithiau cymorth ehangach, i gymryd rhan. Rydym yn awyddus i ddeall beth sy'n bwysig ichi, beth sy'n gweithio'n effeithiol yn barod, a beth yn union y byddai 'gwell' yn ei olygu ichi, wrth inni gydweithio tuag at gyfleoedd dydd cydradd, cynhwysol ac uchel eu safon, ar draws Powys."
Am ragor o fanylion ac i gyfrannu at yr ymarfer ymgysylltu ar-lein yma, ewch i: https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/adolygiad-cyfleoedd-dydd
Mae copïau caled o'r arolwg ar gael i'w casglu o'ch llyfrgell leol, ac ar ôl ei lenwi, gellir ei roi i aelod o staff mewn un o Lyfrgelloedd Powys; fel arall, gellir ei sganio a'i ebostio yn ôl i: haveyoursay@powys.gov.uk.
Y dyddiad olaf i dderbyn ymatebion yw dydd Llun 11 Rhagfyr 2023.
Os byddai'n well gennych gofnodi eich sylwadau ar y cyfleoedd dydd wyneb yn wyneb, byddwn yn cynnal nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu ar hyd a lled y sir yn ystod mis Tachwedd 2023:
Dyddiad | Amser | Lleoliad |
---|---|---|
Dydd Llun 13 Tachwedd | 1.30pm - 2.30pm | Canolfan Dydd Coed Isaf, Y Trallwng |
6.00pm -7.00pm | Ysgol y Trallwng, Y Trallwng | |
Dydd Mawrth 14 Tachwedd | 1.30pm - 2.30pm | Canolfan Dydd y Llys, Llandrindod |
6.00pm - 7.00pm | Y Ganolfan Gelf, Llandrindod | |
Dydd Mercher 15 Tachwedd | 1.30pm - 2.30pm | Canolfan Dydd Arosfa, Aberhonddu |
6.00pm - 7.00pm | Y Gaer, Aberhonddu | |
Dydd Iau 16 Tachwedd | 1.30pm - 2.30pm | Canolfan Dydd Maesywennol, Llanidloes |
Dydd Gwener 17 Tachwedd | 1.30pm - 2.30pm | Canolfan Dydd Y Parc, yn y Llyfrgell, Y Drenewydd |
Dydd Llun 20 Tachwedd | 1.30pm - 2.30pm | Canolfan Dydd, Ystradgynlais |
6.00pm - 7.00pm | Y Llyfrgell, Ystradgynlais | |
Dydd Mawrth 21 Tachwedd | 1.30pm - 2.30pm | Canolfan Dydd Sylfaen, Llanidloes |
6.00pm - 7.00pm | Ysgol Uwchradd Llanidloes | |
Dydd Mercher 22 Tachwedd | 1.30pm - 2.30pm | Canolfan Dydd Castell Y Dail, Y Drenewydd *Mae'r digwyddiad hwn wedi cael ei chanslo.* |
6.00pm - 7.00pm | Y Llyfrgell, Y Drenewydd | |
Dydd Iau 23 Tachwedd | 1.30pm - 2.30pm | Canolfan Dydd Cyfle Newydd, Machynlleth |
6.00pm - 7.00pm | Ysgol Bro Hyddgen, Machynlleth | |
Dydd Gwener 24 Tachwedd | 1.30pm - 2.30pm | Beacons Creative, Ystâd Ffrwdgrech, Aberhonddu |
Dydd Llun 27 Tachwedd | 1.30pm - 2.30pm | Canolfan Dydd Y Rhyd, Aberhonddu |
Dydd Mawrth 28 Tachwedd | 1.30pm - 2.30pm | Canolfan Dydd Mencap, Llanfyllin |
6.00pm - 7.00pm | Y Llyfrgell, Llanfyllin | |
Dydd Mercher 29 Tachwedd | 6.00pm - 7.00pm | Ysgol Gynradd Llanfair-ym-Muallt |
Dydd Iau 30 Tachwedd | 1.30pm - 2.30pm | Canolfan Dydd Dwyrain Maesyfed, Llanandras |
6.00pm - 7.00pm | Ysgol John Beddoes, Llanandras | |
Dydd Gwener 1 Rhagfyr | 1.30pm - 2.30pm | Antur Gwy, Llanfair-ym-Muallt |
Dydd Llun 4 Rhagfyr | 1.30pm - 2.30pm | Canolfan Y CRiC, Crughywel |
6.00pm - 7.00pm | Ysgol Uwchradd Crughywel | |
Dydd Mercher 5 Rhagfyr | 1.30pm - 2.30pm | Y Llyfrgell, Y Gelli Gandryll |
6.00pm - 7.00pm | Ar-lein (Cysylltwch â thedayopportunitiesreview@powys.gov.uk am y manylion ymuno) | |
Dydd Mercher 6 Rhagfyr | 1.30pm - 2.30pm | Y Llyfrgell, Llanfair Caereinion |
6.00pm - 7.00pm | Ysgol Bro Caereinion (Campws Cynradd) | |
Dydd Iau 7 Rhagfyr | 1.30pm - 2.30pm | Ar-lein (Cysylltwch â thedayopportunitiesreview@powys.gov.uk am y manylion ymuno) |
6.00pm - 7.00pm | Ysgol GG Y Gelli Gandryll |
Hefyd gellir ebostio unrhyw sylwadau at: thedayopportunitiesreview@powys.gov.uk