Help gyda gofal personol
Rhan amlaf, bydd pobl yn cael help gyda:
- Codi, golchi, gwisgo a brwsio gwallt ac ati, a help i fynd i'r ty bach.
- Gweini a bwyta prydau bwyd a diodydd
- 'Trosglwyddiadau' megis mynd i mewn i'r gwely a chodi o'r gwely, symud i gadair a chodi oddi arni neu'r toiled, mynd i mewn ac allan o'r bath neu gawod.
- Help i symud o gwmpas y lle megis ymdopi â grisiau a staer
- Gweithgareddau yn y t? megis coginio a golchi'r llestri wedyn.
- Paratoi i fynd i'r gwely a mynd i mewn i'r gwely.
Os ydych yn cael anhawster, gofynnwch am asesiad.
Ymdopi'n annibynnol
Mae rhai dyfeisiadau ar gael a all eich helpu i ymdopi gyda rhai o'r gweithgareddau hyn yn annibynnol. Er enghraifft: Gall siesbinau (shoe horns) gyda breichiau hirion, cymhorthion i wisgo sanau/ teits a ffyn codi (a elwir yn aml yn "helping hands") fod yn ddefnyddiol os ydych yn cael anhawster cyrraedd eich traed neu godi eitemau oddi ar y llawr. Gall dyfeisiau troi tapiau, agor jariau a throi allweddi helpu os nad oes gennych lawer o afael neu os yw'r ffordd mae'ch garddwn yn symud yn wan.
Mae nifer o adwerthwyr yn gwerthu'r math hwn o gyfarpar a gellir ei brynu hefyd ar y Rhyngrwyd.
Mae gan Sefydliad Byw i Bobl Anabl safle a elwir yn "ask Sara" sy'n rhoi cyngor a gwybodaeth ar reoli ystod eang o dasgau byw bob dydd.