Ydych chi'n cael problemau i wneud tasgau bob dydd fel gwisgo neu ymolchi?
Mae 'Tasgau dyddiol' sydd hefyd yn cael eu galw'n 'Weithgareddau Byw Bob Dydd') yn cynnwys:
- Gofalu amdanoch eich hunain, er enghraifft, ymolchi, mynd i'r ty bach a gwisgo, bwyta ac yfed.
- Codi o un lle i'r llall, fel codi o'r gwely a mynd i'r gwely, eistedd a chodi oddi ar gadair neu'r ty bach, mynd i mewn i'r bath neu gawod a dod allan ohonynt
- Symudedd, fel mynd i fyny ac i lawr y grisiau
- Gweithgareddau yn y cartref fel coginio, gwaith ty a siopa.
Mae dyfeisiau, offer a chyfarpar ar gael sy'n helpu llawer o bobl i reoli'r gweithgareddau hyn yn annibynnol: Er enghraifft, mae ffyn codi (sy'n cael eu galw'n 'help llaw') yn ddefnyddiol os ydych yn cael amhawster i gyrraedd eich traed neu godi eitemau oddi ar y llawr. Gall dyfeisiau troi tapiau, agor jariau a throi allweddi helpu os nad oes gennych lawer o afael neu arddynau gwan.
Os ydych yn cael anawsterau, gofynnwch am asesiad.
Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau