Bron â gorffen gwaith i wella goleuadau stryd

26 Hydref 2017 |
Cyhoeddodd Cyngor Sir Powys fod gwaith i newid goleuadau stryd ar draws y sir i lampau LED rhad-ar-ynni bron â dod i ben.
Mae'r cyngor wedi bod yn trosi bron i 5,000 o oleuadau stryd i lampau LED fel rhan o brosiect gwerth £1.5m buddsoddi i arbed.
Dechreuodd y gwaith ym mis Tachwedd 2016 a'i wneud gan y contractwyr Centregreat ar ran y cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Liam Fitzpatrick, Aelod o'r Cabinet ar faterion Priffyrdd: "Rwy'n falch iawn ein bod bron â gorffen newid ein goleuadau stryd i lampau LED rhad-ar-ynni.
"Nid yn unig y byddan nhw'n lleihau ein defnydd o ynni, ond maen nhw'n para'n hirach sy'n golygu llai o gostau rhedeg a chynnal a chadw.
"Fel cyngor, rydym yn ymwybodol o'r angen i leihau ein defnydd o ynni, ein ôl-troed carbon a'n costau. Nid yn unig y byddwn yn gallu gwneud hyn gyda'r lampau LED ond gallwn barhau i sicrhau goleuadau stryd a fydd o fudd i drigolion a defnyddwyr y ffyrdd."