Gwella
Mae'r asiantaethau ym Mhowys sy'n darparu gwasanaethau iechyd meddwl yn defnyddio 'dull adferiad' yn eu gwaith.
Mae 'adferiad' yn ymwneud â helpu pobl i gadw rheolaeth o'u bywydau er gwaethaf problemau iechyd meddwl trwy ddatblygu cryfder pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, ac nid trin neu reoli eu symptomau'n unig. Gall y broses gymryd amser hir ac efallai ni fydd yn hawdd - bydd yn amrywio o berson i berson. Y prif nod yw rhoi gobaith ei fod yn bosibl cael bywyd ystyrlon, er gwaethaf salwch meddwl difrifol.
Nod y model adferiad yw helpu pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl i edrych y tu hwnt i 'oroesi' ac i bwysleisio er efallai nad oes gan rywun rheolaeth lwyr dros eu symptomau, y gallant gael rheolaeth lwyr dros eu bywydau.
Os yw problemau iechyd meddwl cynddrwg fel y gall rhywun fod yn berygl i'w hunan neu i bobl eraill, gallant gael eu cadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl (1983)
Mae gan bobl a gedwir yn gaeth hawliau o dan y Ddeddf ac (yng Nghymru) o dan y Mesur Iechyd Meddwl (2010).
Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau