Beth yw anabledd dysgu?
Mae'n bosibl y bydd gan rywun gydag anableddau dysgu broblemau gyda:
- deall gwybodaeth newydd neu gymhleth
- dysgu sgiliau newydd
- ymdopi'n annibynnol
Gall anabledd dysgu fod yn ysgafn, yn gymedrol neu'n ddifrifol. Bydd rhai pobl gydag anabledd dysgu ysgafn yn gallu siarad yn rhwydd a gofalu amdanyn nhw'u hunain, ond efallai bod angen ychydig yn fwy o amser arnynt i ddysgu sgiliau newydd.
Mae'n bosibl na fydd rhywun ag anabledd dysgu difrifol yn gallu cyfathrebu o gwbl, ac efallai bod angen llawer o help arnynt yn eu bywyd bob dydd.
Os ydych yn rhywun ag anabledd dysgu, neu'n aelod o'r teulu, yn gyfaill neu'n gefnogwr, mae gwybodaeth a help ar gael i chi, a gall y gwasanaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion roi manylion cysylltu amrywiaeth eang o wasanaethau sy'n helpu pobl ag anableddau dysgu i fod mor annibynnol â phosib.
Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau