1. Logio Mewn / Cofrestru
  2. English
Close Icon
  1. Logio Mewn / Cofrestru
Hysbysiad:Taliadau am gasglu gwastraff swmpus i godi
Darllen mwy

Beth sy'n digwydd ar ôl asesiad?

Ar ôl eich asesiad, bydd y rheolwr gofal yn ysgrifennu Cynllun Gofal Personol a fydd yn rhestru'r holl help y mae ei angen arnoch, a bydd yn esbonio pwy fydd yn eich helpu a phwy fydd yn talu. Bydd yr asesiad yn ystyried anghenion cyfnewidiol, oherwydd gwyddom fod hyn yn rhywbeth sy'n effeithio ar bobl sy'n HIV-positif neu sydd â hepatitis sy'n dioddef sgil-effeithiau triniaeth neu gyfnodau o salwch difrifol rhwng cyfnodau o iechyd da.

Rydym hefyd yn gwybod nad yw rhai pobl sy'n HIV-positif neu sydd â hepatitis yn derbyn cymorth teulu a chyfeillion pan fyddant yn sâl, a gallant yn aml ddioddef o  iselder, sy'n golygu bod y cymorth a roddwn yn bwysicach fyth.

Bydd y rheolwr gofal yn gwybod am sefydliadau eraill sy'n gallu eich helpu, a byddant yn cysylltu â nhw os ydych am iddynt wneud hynny.

 

 

Cyswllt

  • Ebost: cymorth@powys.gov.uk
  • Teleffon: 0345 602 7050
  • Cyfeiriad: Pobl Uniongyrchol Powys, Neuadd y Sir, Spa Road East, Llandrindod, Powys, LD1 5LG

 

Eich sylwadau am ein tudalennau

 


Rhannwch y dudalen hon

Facebook icon Twitter icon Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu