Beth sy'n digwydd ar ôl asesiad?
Ar ôl eich asesiad, bydd y rheolwr gofal yn ysgrifennu Cynllun Gofal Personol a fydd yn rhestru'r holl help y mae ei angen arnoch, a bydd yn esbonio pwy fydd yn eich helpu a phwy fydd yn talu. Bydd yr asesiad yn ystyried anghenion cyfnewidiol, oherwydd gwyddom fod hyn yn rhywbeth sy'n effeithio ar bobl sy'n HIV-positif neu sydd â hepatitis sy'n dioddef sgil-effeithiau triniaeth neu gyfnodau o salwch difrifol rhwng cyfnodau o iechyd da.
Rydym hefyd yn gwybod nad yw rhai pobl sy'n HIV-positif neu sydd â hepatitis yn derbyn cymorth teulu a chyfeillion pan fyddant yn sâl, a gallant yn aml ddioddef o iselder, sy'n golygu bod y cymorth a roddwn yn bwysicach fyth.
Bydd y rheolwr gofal yn gwybod am sefydliadau eraill sy'n gallu eich helpu, a byddant yn cysylltu â nhw os ydych am iddynt wneud hynny.
Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau